Cymeriadau (T. Gwynn Jones)
Mae Cymeriadau yn gyfrol gan T Gwynn Jones a gyhoeddwyd gan gwmni Hughes a'i fab Wrecsam ym 1933. Mae'r gyfrol yn cynnwys 13 o ysgrifau o atgofion yr awdur am bobl yr oedd yn eu hadnabod neu a gyfarfu yn ystod ei fywyd. Mae deg o'r ysgrifau yn ymdrin â dynion oedd yn Gymry amlwg yn eu dydd. Mae'r tair pennod olaf yn trafod pobl nad oedd yr awdur yn eu hadnabod yn dda, ond a chafodd dylanwad arno yn ystod y cyfnod byr y bu yn eu cwmni.
Enghraifft o'r canlynol | llyfr |
---|---|
Awdur | Thomas Gwynn Jones |
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1933 |
Lleoliad cyhoeddi | Wrecsam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cynnwys
golyguDydy'r erthyglau ddim yn rhai bywgraffiadol, nac yn gofiannau cyflawn, yn hytrach maent yn cynnwys argraffiadau Gwynn Jones am gymeriad a phersonoliaeth y gwrthrychau a natur ei berthynas ef a hwy.
Y bobl sydd yn cael eu cofio yw :
Syr Edward Anwyl,[1] (1866-1914) ysgolhaig, awdur ac ieithydd
Tawel, pwyllog, gafaelgar, cryf, gwyddai ei feddwl a'i amcan yn drwyadl, a medrai edrych ymhell, a disgwyl yn hir.[2]
Thomas Francis Roberts[3] (1860 - 1919), ail brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
Am y Prifathro, teimlwn bob amser fod dau beth rhyfeddol ynddo—y cywirdeb a'r dyfalwch y ceir cymaint ohonynt ymhlith y Bedyddwyr fel pobl, a'r neilltuedd tynghedfennol a geir yng nghytganau'r ddrama Roeg.[4]
Dic Tryfan (Richard Hughes Williams 1878–1919), newyddiadur ac awdur straeon byrion.[5]
Yr oedd ganddo ddychymyg hynod fyw—mor fyw, yn wir, fel yr ymrithiai ei ddychmygion fel ffeithiau iddo yn aml; ond ni bu gywirach na diniweitiach dyn erioed. Chwarddai am ben gwendidau dynion—a bu yn y cyfle i weled cryn lawer ohonynt—ond maddeuai'n rhwydd a llwyr.[6]
Syr Henry Jones, (1852--1922) ddarlithydd mewn athroniaeth ym mhrifysgol Aberystwyth ac yn athro athroniaeth ym mhrifysgolion Bangor a St Andrews.[7]
Y pryd hwnnw, yr oedd yn ei rwysg, corff gosgeiddig, wyneb glân, wedi ei eillio onid y trawswch, cnwd da o wallt; ysgogiadau cyflym, byw; lleferydd rhwydd, Cymraeg ardderchog.[8]
John Humphrey Davies, (1871-1926) cyfreithiwr, ysgolhaig a chasglwr llyfrau a llawysgrifau.[9]
Erbyn ei ddyfod ef a minnau i gysylltiad agos a'n gilydd, yr oedd tymor rhyw gastiau bachgennaidd drosodd, ond yr oedd y synnwyr iach hwnnw yno o hyd. Synnwyr rhadlon, hynaws a di-wenwyn ydoedd. Nid oedd derfyn ar ei ddiddordeb mewn cymeriadau, na'i gyffelyb am adrodd hanes dynion a rhywbeth anghyffredin neu ddigrif o'u cwmpas.[10]
David Williams, (1877 - 1927) gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac athro coleg yn Nhrefeca, Aberystwyth a'r Bala.[11]
Llawer tro yr aeth oriau dros ein pennau megis heb yn wybod i ni, a minnau'n gwrando ar ei wybodaeth a'i brofiad a'i ddoethineb, ei ddysg helaeth a manwl, ei reddf at ddeall pethau anodd, ei ddawn at ddewis gair, ac yn bennaf dim, praffter ardderchog ei feddwl.[12]
Alafon (Owen Griffith Owen 1847-1916) Gweinidog a bardd[13]
Gŵr tal, golygus. O ran teip, pe dodesid cap Cardinal am ei ben, tyngasech mai Eidalwr o Gardinal ydoedd, ac nid Cymro o weinidog Methodist.[14]
John Morris-Jones (1864–1929) ysgolhaig, bardd, academydd, safonwr orgraff y Gymraeg.[15]
Hebddo ef, y mae'n lled sicr na buasai lawer o lun ar astudio'r Gymraeg yn y colegau Cymreig hyd heddiw.[16]
Richard Ellis (1865 - 1928), hanesydd Cymry Rhydychen, llyfrgellydd a llyfryddwr[17]
Gŵr tawel, bonheddig, gwylaidd, rhy wylaidd, oedd Richard Ellis. Oni bai ei wyleiddied, nid aethai drwy'r byd heb fod ond ychydig a wyddai am ei ddiddordeb eang a'i wybodaeth helaeth am bob math o bobl a phethau mewn meysydd diarffordd. Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, hanes Cymru ac ysgolheigion Cymreig, hanes Rhydychen a godidowgrwydd pethau coll yn byw byth yn ei hawyr; hanes ac achau teuluoedd, eu ffyniad a'i orffeniad; hanes y Sipsiwn Cymreig, llên gwerin, arferion a defodau,—aeth ffrwyth sylw ac ymchwil oes lafurus i'w ganlyn i'r distawrwydd mawr, ac nid oes yn aros onid ychydig gyfeillion a ŵyr hynny.[18]
Daniel Rees, (1855 - 1931), newyddiadurwr, cyfieithydd gwaith Dante i'r Gymraeg ac ystadegydd[19]
Yr oedd yn dra hoff o rifyddiaeth a mechaneg, a dyfeisiodd beiriant cyfrif, "Melinrivo" oedd yr enw a roddai arno. Credai y gallai wella ar y peiriannau cyfrif sydd eisoes ar arfer, ac yr oedd ganddo beiriannau cymhleth a droid gan olwyn ddŵr at ddwyn ei arbrofion ymlaen.[20]
Mae tair pennod olaf y llyfr yn ymwneud â phobl di enw sef:
Y Ffilosoffydd-sef hen ffermwr oedd a barn am doriad y Rhyfel Byd Cyntaf a wnaeth i'r awdur credu bod priodoledd yr hen ffilosoffwyr Groeg a Rhufeinig yn dal i fodoli ymysg Cymry cefn gwlad.[21]
Y Chwildroadwr-Ym 1905, treuliodd T Gwynn Jones cyfnod yn yr Aifft i geisio adfer ei iechyd wedi cael pwl o'r diciâu. Mae'r ysgrif yn ymdrin â dau o'i gyd gleifion Almaenwr a Rwsiad yn trafod y ddrama "Le Temple Enseveli, gan Maurice Maeterlinck sy'n ymwneud â phechod a maddeuant. Mae'r Rwsiad yn cyfaddef iddo ladd dyn (mae teitl y bennod a'r cyfnod yn awgrymu fel rhan o Wrthryfel Rwsia 1905, ond nid yw'n cael ei nodi'n benodol yn yr ysgrif) mae'r tri yn trafod os oes modd iddo gael maddeuant, yn ôl ffynnon mesur Maeterlinck:
Cyfododd yn sydyn a cherddodd ymaith. Ni soniasom byth am y peth wedyn, ond pa beth bynnag a fu, yr oedd yn hoff gennym y gŵr a'r wyneb agored a'r llygaid dwfn. Ar draws chwarter canrif, y mae'r olaf o'r tri yn cofio amdano â thynerwch a thosturi. Pwy a edwyn galon dyn? Barned ni, o'i dosturi, bawb ohonom.[22]
Gwas-Hanes mab i ffermwr go llewyrchus a syrthiodd i lawr y graddau cymdeithasol i ddyfod yn un oedd yn llafurio ar ran eraill, yn hytrach nag at ei lesiant ei hun
Diniwed, gonest, diwyd, hael, mud. Dyna'i fywyd. Aberth i syniadau cul, caled, am ddau fyd. Nid wyf yn meddwl iddo unwaith dybio bod dim o'i le ynddynt chwaith. A thristach fyth yw na feddyliodd ei dad hynny mwy nag yntau. Na'i ddosbarth. Na neb.[23]
Oriel
golygu-
Edward Anwyl
-
Thomas Francis Roberts
-
Dic Tryfan
-
Syr Henry Jones
-
John Humphrey Davies
-
David Williams
-
Alafon
-
John Morris-Jones
-
Richard Ellis
-
Daniel Rees
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ANWYL, Syr EDWARD (1866 - 1914), ysgolhaig Celtig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "ROBERTS, THOMAS FRANCIS (1860 - 1919), prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "WILLIAMS, RICHARD HUGHES ('Dic Tryfan '; 1878? - 1919), newyddiadurwr ac awdur storïau byr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "JONES, Syr HENRY (1852 - 1922), athronydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "DAVIES, JOHN HUMPHREYS (1871 - 1926), llyfryddwr, llenor, ac addysgwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "WILLIAMS, DAVID (1877 - 1927), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac athro coleg | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "OWEN, OWEN GRIFFITH ('Alafon'; 1847-1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "MORRIS-JONES (gynt JONES), Syr JOHN (MORRIS) (1864 - 1929), ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "ELLIS, RICHARD (1865 - 1928), llyfrgellydd a llyfryddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ "REES, DANIEL (1855 - 1931), newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-01-09.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.
- ↑ Jones, T Gwynn (1933). . Cymeriadau. Wrecsam: Hughes a'i fab.