Edward Anwyl
Ysgolhaig Cymreig oedd Syr Edward Anwyl (5 Awst 1866 – 8 Awst 1914) a benodwyd yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1892. Yn 1905 daeth hefyd yn bennaeth yr adran ieitheg yno. Cyfrannodd yn helaeth am hanes llenyddiaeth Gymraeg ac am yr Eglwys Geltaidd, athroniaeth a diwynyddiaeth. Roedd yn frawd i'r geiriadurwr J. Bodvan Anwyl. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1911. Yn 1913 fe'i penodwyd yn brifathro cyntaf Coleg Hyfforddi Sir Fynwy (Coleg Caerllion) ond bu farw cyn i'r coleg ar gyfer hyffordd athrawon, agor yn swyddogol.
Edward Anwyl | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1866 Caer |
Bu farw | 8 Awst 1914 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person dysgedig |
Tad | John Anwyl |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ganed yng Nghaer a bu'n ddisgybl i John Rhŷs ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Anghytunai'n gryf gyda safwbwynt dogmatig John Morris Jones ar ramadeg Cymraeg. Credai Anwyl y dylai'r iaith ysgrifenedig fod yn llawer nes i'r iaith lafar, syniadau a welwyd yn blaguro yn yr 21g e.e. iaith ysgrifenedig Golwg a Sulyn o'i flaen ac iaith blogiau.
Llyfryddiaeth
golygu- Welsh Accidence (1898)
- A Welsh Grammar for Schools (1897-1899)
- Welsh Syntax (1899)
- Celtic Religion in Pre-Christian Times (1906)