Henry Jones (athronydd)
Athronydd o Gymru oedd Syr Henry Jones (30 Tachwedd 1852 – 4 Chwefror 1922).[1]
Henry Jones | |
---|---|
Ganwyd | 30 Tachwedd 1852 Llangernyw |
Bu farw | 4 Chwefror 1922 Tighnabruaich |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | athronydd, llenor, academydd |
Plant | E. H. Jones |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor |
Magwraeth ac addysg
golyguGanwyd ef yn Llangernyw, Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw), yn fab i grydd. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor a dod yn athro yn Ysgol Elfennol Brynaman yn 1870. Ar ôl penderfynu mynd am y weinidogaeth enillodd ysgoloriaeth y Dr. Williams, ac yn 1875 aeth i Brifysgol Glasgow lle bu Edward Caird yn ddylanwad arno.[1] Graddiodd yn 1878, ac enillodd gymrodoriaeth Clark, a'i galluogodd i astudio ymhellach yn Glasgow am bedair blynedd, a chynnwys cyfnodau byrion yn Rhydychen ac yn yr Almaen.
Bu'n athro athroniaeth ac economi gwleidyddol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor; athro rhesymeg a metaffiseg ym Mhrifysgol St. Andrews; darlithydd Hibbert ar fetaffiseg yng Ngholeg Manchester, Rhydychen.
Yn 1882 priododd Annie Walker, Kilbirnie.
Gwaith
golyguPenodwyd Henry Jones yn ddarlithydd mewn athroniaeth yn Aberystwyth yn 1882 ac yn athro ym Mangor ddwy flynedd wedyn; bu hefyd yn St Andrews yn 1891 ac yn Glasgow, gan lenwi esgidiau gweigion E. Caird yn 1894. Roedd dehongliad Caird o idealiaeth Hegel yn sylfaen i'w athroniaeth, ond cyfrannodd y Beibl a'r prifeirdd hefyd at ei feddwl a'i arddull. Roedd gwerthoedd moesol hefyd yn sylfaen ac arferai bwysleisio anfeidroldeb a meidroldeb dyn.
Ei waith pwysicaf yw ei lyfrau ar Browning (1891), Lotze (1895) ac A Faith that Enquires (1922) — darlithiau Gifford a draddodwyd yn Glasgow rhwng 1920-1.
Bu'n un o aelodau gwreiddiol y Comisiwn Brenhinol ar yr Eglwys yng Nghymru yn 1906, cyn ymddeol blwyddyn yn ddiweddarach.
Llyfryddiaeth
golygu- A Critical Account of the Philosophy of Lotze (1895)
- Old memories Hunangofiant. Hodder & Stoughton (1900)
- Browning as a Philosophical and Religious Teacher (1891)
- Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru (1911)
- A Faith that Enquires (1922)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Henry Jones, Y Bywgraffiadur Ar-lein.