Cymuned Saint-y-brid

cymuned ym Mro Morgannwg

Cymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Saint-y-brid (Saesneg: St Brides) a leolir tua hanner ffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd, ar arfordir Cymru. Ei anheddiad mwyaf yw pentref Saint-y-brid, ac mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Aberogwr, Southerndown, a phentrefi bychan Ogwr, Heol-y-Mynydd a Norton.[1] Mae'n nodedig am ei daeareg arfordirol a'i golygfeydd, ei iseldiroedd calchfaen a ffosiliau o famaliaid, clogwyni a dwy fryngaer o'r Oes Haearn. Dyma derfyn gorllewinol Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg.

Saint-y-brid
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,940 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,010.43 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5°N 3.6°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000669 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Chwareli Ewenni a Phant golygu

Mae Chwareli Ewenni a Phant yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle ceir haenau o glai [[Jwrasig]] wedi'i gronni yn yr holltau calchfaen Carbonifferaidd. Mae'r garreg galch yn cael ei chwarela yn y ddau safle hyn (Chwarel Pant a Chwarel Ewenni, gerllaw yng nghymuned Ewenni); mae'r clai wedi'i archwilio a'i gofnodi gan ddaearegwyr. Dyma weddillion ffosiledig mwyaf cyflawn o sawl rhywogaeth o famaliaid cyntefig unrhyw le ar y ddaear.[2]

Rhedyn newydd a chlychau'r gog; ger Castell-ar-Alun.

Coed y Bwl golygu

Mae'r llethrau i'r gorllewin o Afon Alun yn cynnwys Gwarchodfa Natur Coed y Bwl, Mae Blodyn y gwynt a chlychau'r gog yn doreithiog yma a choetir ynn. Rheolir y warchodfa gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, ac mae'n cynnwys 2.4 hectar (5.9 erw).[3]

Castell Ogwr a'r Cerrig Camu hynafol ar Afon Ewenni

Ymgyrch ffiniau golygu

Yn 2009 cyflwynwyd ymgyrch gan drigolion Aberogwr i greu dwy gymuned: Saint-y-brid ac Aberogwr, i'r Comisiwn Ffiniau. Ar ôl ymgynghori, gyda deisebau ar y ddwy ochr yn cael eu casglu, argymhellodd y Comisiwn na ddylid newid [4]

Cyfeiriadau golygu