Cynllwyn i fomio awyrennau trawsiwerydd (2006)

Yn ôl awdurdodau Prydain a'r Unol Daleithiau, cynllwyn terfysgol i danio ffrwydron hylifol wedi'u cludo mewn bagiau llaw ar nifer o awyrennau yn teithio o Lundain i ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau oedd y cynllwyn awyrennau trawsiwerydd 2006. Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio gan yr Ysgrifennydd Cartref, John Reid, fel cynllwyn "arwyddocaol iawn" gyda'r bwriad o ladd nifer fawr o bobl.[1] Bu mesurau diogelwch llym iawn ym meysydd awyr Prydain,[2] yr Unol Daleithiau, a nifer o wledydd eraill yn dilyn datgeliad y cynllwyn.

Cynllwyn i fomio awyrennau trawsiwerydd
Enghraifft o'r canlynolcynllun Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Heddlu yn Heol Forest, Walthamstow, Llundain, yn chwilio tŷ a ddrwgdybir o ymwneud â'r cynllwyn.

Manylion y cynllwyn golygu

Ffrwydron hylifol golygu

Yn ôl nifer o ffynonellau newyddion, bu'r terfysgwyr yn cynllunio i gludo ffrwydron hylifol ar yr awyrennau mewn poteli Lucozade. Cynlluniodd y cynllwynwyr i adael top y botel wedi'i selio a llawn y ddiod wreiddiol, ond i roi gwaelod ffug yn cynnwys ffrwydryn hylifol neu gel wedi'i lliwio'n goch i gydweddu â'r ddiod chwaraeon yn nhop y cynhwysydd.[3]

Ymateb diogelwch golygu

Diogelwch hedfan golygu

Y Deyrnas Unedig golygu

Yn dilyn datgeliad y cynllwyn honedig, cafodd mesurau diogelwch llym eu gorfodi ar gyfer teithwyr oedd yn hedfan o Brydain, neu yn newid awyren ym Mhrydain. Ni chaniaetheir bagiau llaw (rhaid cael eu rhoi yng nghrombil yr awyren), a ni chaniaeteir rhoi eiddo mewn pocedi dillad. Bu rhaid i deithwyr cario dim ond eitemau hanfodol (megis arian, pasportau, sbectolau, meddyginiaethau) mewn waledi tryloyw. Cafodd pob teithiwr eu harchwilio gyda llaw, a sgriniodd â phelydr-X pob esgid a waled dryloyw.[4]

Yr Unol Daleithiau golygu

Yn dilyn yr ymgyrch i atal y cynllwyn, gwaharddodd Diogelwch Mamwlad yr Unol Daleithiau pob hylif a gel, ac eithrio fformiwla llaeth babanod a meddyginiaethau presgripsiwn yn enw daliwr y tocyn, mewn bagiau llaw ar bob siwrnai.[5] Cododd y Lefel DHS yn yr Unol Daleithiau i "Uchel Iawn" (coch) ar gyfer pob siwrnai awyren o'r DU. Cododd y lefel ar gyfer pob daith fewnwladol neu ryngwladol (ar wahân i Brydain) yn yr Unol Daleithiau i "Uchel" (oren).

Diogelwch cyffredinol golygu

Fel yn dilyn ymosodiadau a chynllwynion eraill yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, bu cynnydd mewn diogelwch cyffredinol. Ddydd Sul, 13 Awst, 2006, bu mwy o heddlu yn patrolio Caerdydd cyn gêm pêl-droedd rhwng Lerpwl a Chelsea yn Stadiwm y Mileniwm. Dywedodd y Brif Arolygydd Bob Evans:

Nid oes bygythiad terfysgol penodol i dde Cymru, Caerdydd, neu Stadiwm y Mileniwm - ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus .[6]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dogfennau llywodraethol swyddogol golygu

Y Deyrnas Unedig golygu