Arlunydd Seisnig oedd Cynthia Lennon (née Powell; 10 Medi 19391 Ebrill 2015). Hi oedd gwraig cyntaf y cerddor John Lennon a mam Julian Lennon.

Cynthia Lennon
GanwydCynthia Lillian Powell Edit this on Wikidata
10 Medi 1939 Edit this on Wikidata
Blackpool Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata
o canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Mallorca Edit this on Wikidata
Man preswylHoylake, Kenwood, St. George's Hill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Coleg Celf Lerpwl Edit this on Wikidata
Galwedigaethartist, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
PriodJohn Lennon, John Twist, Roberto Bassanini Edit this on Wikidata
PlantJulian Lennon Edit this on Wikidata

Cafodd ei magu yn Hoylake, Cilgwri i deulu dosbarth canol. Bu'n fyfyrwraig yng Ngholeg Celf Lerpwl ble y cyfarfu â Lennon a oedd yn astudio caligraffi yn yr un adran. Wedi iddi feichiogi priododd y ddau ar 23 Awst 1962 yn Lerpwl. Ym 1968, gadawodd Lennon hi am Yoko Ono ac ysgarodd y ddau ar 8 Tachwedd 1968. Priododd yr Eidalwr Roberto Bassanini yn 1970 a'i ysgaru ym 1973. Priododd John Twist y drydedd waith - peiriannydd o Swydd Gaerhirfryn a bu'r ddau yn byw yn Rhuthun am gyfnod gan redeg Oliver's Bistro, yn Stryd y Ffynnon, ond ysgarodd yntau yn 1983. I ysgol fonedd Rhuthun yr aeth ei mab Julian.

Newidiodd ei henw'n ôl i 'Lennon' a bu'n bartner am 17 mlynedd i Jim Christie. Yn ystod yr adeg yma, ym 1978, sgwennodd lyfr A Twist of Lennon. Priododd am y pedwerydd tro - gyda Noel Charles, perchennog clwb nos, o 2002 hyd at ei farwolaeth yn 2013. Yn 2005, cyhoeddodd lyfr arall, mwy personol am ei chyfeillgarwch i John Lennon. Symudodd i fyw i Majorca, Sbaen lle y bu farw o gancr yn 75 oed.

Cyfeiriadau

golygu