Cysgodau y Blynyddoedd Gynt

Nofel gan Gwyneth Vaughan yw Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. Cafodd ei chyhoeddi fel cyfres yn Y Brython Cymreig yn ystod 1907-08, ond yn wahanol i nofelau blaenorol Vaughan ni chafodd ei chyhoeddi fel cyfrol tan dros ganrif yn ddiweddarach gan Melin Bapur.[1]

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt
Clawr argraffiad Melin Bapur (2024)
AwdurGwyneth Vaughan
CyhoeddwrMelin Bapur (2024)
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncNofelau Cymraeg
ArgaeleddMewn print

Crynodeb golygu

Nofel rhamantus yw hon am gymuned yn seiliedig ar Aberdaron (Bro Einion yn y nofel) ac Ynys Enlli yn ystod hanner gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar ôl llongddrylliad mae'r Albanwr Charlie Munro yn cael ei hun dan ofal y Sgweier Rhydderch Gwyn, Aelod Seneddol y Plwyf, sy'n ceisio ei briodi i'w ferch Alys.

Mae i'r sipsiwn Cymreig rôl flaenllaw yn y llyfr, ac mae'r portread ohonynt yn bositif os yn ystradebol.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu