Cytsain drwynol
Mewn seineg, cytsain stop yw cytsain drwynol lle y mae'r llwybr lleisiol yn cael ei rwystro er mwyn atal llif yr anadl, a'r daflod feddal yn cael ei gollwng gan adael i'r anadl ddianc trwy'r trwyn. Gellir rhwystro'r anadl â'r tafod neu â'r gwefusau. Mae cytseiniaid ffrwydrol yn cyferbynnu â chytseiniaid ffrwydrol lle y mae rhwystr i'r llwybr lleisiol ond nid yw'r anadl yn llifo trwy'r trwyn.
Ceir y cytseiniaid trwynol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
m | cytsain drwynol ddwywefusol | Cymraeg | merch | [mɛrχ] | merch |
cytsain drwynol wefus-ddeintiol leisiol | Cymraeg | ymffrost1 | [əɱfrɔst] | ymffrost | |
n̪ | cytsain drwynol ddeintiol | Cymraeg y Gogledd | canu | [kʰan̪ɨ] | canu |
n | cytsain drwynol orfannol | Cymraeg y de | canu | [kʰani] | canu |
cytsain drwynol olblyg | Swedeg | Vänern | [vɛː.neɳ] | Vänern | |
cytsain drwynol daflodol | Ffrangeg | agneau | [aɲo] | oen | |
cytsain drwynol felar | Cymraeg | lleng | [ɬɛŋ] | lleng | |
cytsain drwynol argegol | Japaneg | 日本 Nihon | [ni.hoɴ] | Japan |
Gweler hefyd
golyguFfynonellau
golygu- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.