Cytsain grech
Mewn seineg, cytsain a gynhyrchir gan ddirgryniad rhwng yr ynganydd a'r man ynganu yw cytsain grech. Mae cytseiniaid crychion yn wahanol i chytseiniaid cnithiedig lle y mae'r ynganydd gweithredol yn cael ei fwrw yn erbyn yr un goddefol. Mewn gwrthgyferbyniad, er mwyn ynganu cytsain grech, mae'r ynganydd yn aros yn ei unfan a llif yr anadl sy'n gwneud iddo ddirgrynu. Fel arfer mae'r dirgrynu hwn yn parhau am ddwy neu dri thro.
Ceir y cytseiniaid crychion canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
ʙ | cytsain grech ddwywefusol leisiol | ieithoedd Bamileke | [àʙɨ́] | lludw | |
ynganiad: [r̪] | cytsain grech ddeintiol | iaith Ynysoedd Marshall | Ebadon | [ynganiad: [ebɑ]ynganiad: [r̪]ynganiad: [on̪]] | Ebadon |
ynganiad: [r] | cytsain grech orfannol | Cymraeg | ras | [ynganiad: [r]ynganiad: [aːs]] | ras |
![]() |
cytsain grech dafodigol | Ffrangeg | Paris | ynganiad: [[paˈ]ynganiad: [ʀ]ynganiad: [i]] | Paris |
Gweler hefydGolygu
FfynonellauGolygu
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.