Cytsain gnithiedig
Mewn seineg, cytsain a gynhyrchir gan gyfangiad cyhyrol yw cytsain gnithiedig, lle y mae'r ynganydd gweithredol yn cael ei fwrw yn erbyn yr un goddefol. Mae cytseiniaid cnithiedig yn cyferbynnu â chytseiniaid stop gan nad oes cynnydd anadl y tu ôl i'r man ynganu ac felly dim rhyddhau'r sain ffrwydrol. Fel arall, mae cytseiniaid cnithiedig yn debyg i gytsain stop sydyn. Hefyd, maent yn wahanol i gytsain grech lle y mae'r ynganydd yn aros yn ei unfan a llif yr anadl sy'n gwneud iddo ddirgrynu. Gall y dirgrynu hwn barhau am sawl tro mewn cytsain grech, ond dim ond unwaith mae'n digwydd mewn cytsain gnithiedig.
Ceir y cytseiniaid cnithiedig canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
---|---|---|---|---|---|
Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
cytsain gnithiedig wefus-ddeintiol | iaith Mono | vwa | [ⱱa] | anfon | |
ɾ̪ | cytsain gnithiedig ddeintiol | Sbaeneg | pero | [peɾ̪o] | ond |
ɺ | cytsain gnithiedig ochrol orfannol | Japaneg | ラーメン(rāmen) | [ɺaːmeɴ] | nwdls rāmen |
cytsain gnithiedig olblyg | Hausa | shaara | [ʃáːɽa] | ysgubo | |
ɺ̢ () | cytsain gnithiedig ochrol olblyg | Pashto | ړوند (ṛund) | [ɺ̢und] | dall |
Gweler hefyd
golyguFfynonellau
golygu- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.