Grŵp o feirdd benywaidd sy'n cyfansoddi a pherfformio yn yr Iaith Gymraeg yw Cywion Cranogwen. Sefydlwyd y prosiect yn 2017 a pherfformwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Môn y flwyddyn honno. Ers hynny maent wedi teithio ledled Cymru gyda'u sioeau amlgyfrwng, sydd fel arfer yn canoli ar thema benodol. Roedd eu perfformiad cyntaf yn ymateb i osodiad yn y Lle Celf gan un o'r aelodau, Manon Awst.

Mae Cywion Cranogwen yn cymryd eu henw gan Sarah Jane Rees (Cranogwen), bardd a llenor Cymreig o'r 19eg Ganrif.

Aelodau golygu

Y beirdd sy'n perfformio fel rhan o'r Cywion yw Miriam Elin Jones, Beth Celyn, Manon Awst, Siân Miriam, Judith Musker-Turner, Sara Borda Green a Llio Maddocks. Maent yn cyfansoddi mewn sawl arddull wahanol, o gerddi rhydd a byrfyfyr i weithiau yn y mesurau caeth. Mae sawl un o'r aelodau hefyd yn gweithio o fewn meysydd celfyddydol eraill, sydd yn cyfrannu at naws amlgyfrwng eu perfformiadau. Mae Elan Grug Muse a Caryl Bryn hefyd yn gyn-aelodau.

Perfformiadau golygu

 
Cywion Cranogwen yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Gorffennaf 2018

Ar eu taith gyntaf, Corddi, yn ystod Tachwedd 2017, ymwelwyd â Chaerfyrddin, Dinbych a Chaernarfon.[1] Cyhoeddwyd cerddi o'r daith hon fel atodiad i rifyn Gwanwyn 2018 cylchgrawn Y Stamp.[2] Ar gyfer taith Haf 2018, ymwelwyd â Chaernarfon, Llangrannog - sef bro Cranogwen ei hun, Gŵyl Arall, Sesiwn Fawr Dolgellau, a Gŵyl Ffrinj Eisteddfod Ryngwladol Llangollen; cyn perfformio sioe newydd, Llifo, ar lwyfan y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, y tro cyntaf i Judith Musker-Turner ymddangos fel aelod o'r prosiect. Yn Chwefror 2019, cafwyd perfformiad newydd gan Gywion Cranogwen - O Ysbaid i Ysbaid - yn nigwyddiad Estyn yn Ddistaw Llenyddiaeth Cymru, sef dydd o fyfyrdod yn Y Senedd ar farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru.[3] Dyma oedd y tro cyntaf i Sara Borda Green ymddangos fel aelod o'r grŵp.

Perfformiodd rhai o'r aelodau yn lansiad cyfrol gyntaf Caryl Bryn, Hwn ydy'r llais, tybad?, yng Nghaernarfon fis Ebrill 2019. Cyhoeddwyd y byddai'r grŵp yn cefnogi Lleuwen ar ei thaith theatrau ym Mai 2019, wrth iddi hyrwyddo ei record hir, Gwn Glan Beibl Budr. Ym mherfformiad cyntaf y daith honno yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ymddangosodd Llio Maddocks fel aelod o'r grŵp am y tro cyntaf.

Llyfryddiaeth golygu

  • Cywion Cranogwen - Ar Daith. Atodiad i'r Stamp, Gwanwyn 2018 - cerddi.

Llyfryddiaeth Aelodau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cywion Cranogwen AR DAITH". www.facebook.com. Cyrchwyd 2019-02-26.
  2. "RHIFYN: Y STAMP #4 - Gwanwyn 2018". Cylchgrawn y Stamp (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2019-02-26.
  3. "Estyn yn Ddistaw". Literature Wales. Cyrchwyd 2019-02-26.[dolen marw]