Gŵyl lenyddol a ddiwylliannol yw Gŵyl Arall a gynhelir yn flynyddol nhref Caernarfon fel arfer ym mis Gorffennaf. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o sesiynau llenyddol, cerddorol, lansiadau llyfrau ac adloniant ysgafn megis comedi a choginio.

Hanes golygu

 
Geraint Jarman sydd wedi perfformio yn yr Ŵyl fwy nag unwaith

Cynhaliwyd y Gŵyl Arall gyntaf yn 2009. Sefydlwyd hi gan Nici Beech a oedd wedi ei hysbrydoli gan ŵyl debyg yn Nhalacharn.[1] Cynhaliwyd digwyddiadau o fewn lleoliadau penodol megis Siop Lyfrau 'Plas Print' a Chlwb Canol Dre. Bydd mynychwyr yn talu wrth y drws i weld digwyddiadau unigol yn hytrach na phrynu tocyn ar gyfer yr holl ddigwyddiad (fel sy'n digwydd mewn digwyddiadau eraill, megis Eisteddfod Genedlaethol Cymru).

Datblygiad golygu

 
Y Galeri, un o leoliadau Gŵyl Arall

Erbyn 2018 roedd yr Ŵyl wedi tyfu i gynnwys dros 50 o ddigwyddiadau a thros 15 o fandiau yn perfformio yn y castell hefyd, gan gynnwys Celt, Adwaih, Los Blancos a Candelas.

Cymraeg yw prif iaith yr ŵyl ond cynhelir sesiynau dwyieithog a Saesneg hefyd bellach.[2] Gellir prynu 'Tocyn Crwydro' sy'n rhoi gostyniad ar ddigwyddiadau yn hytrach na thalu'n unigol.

Bydd yr ŵyl yn codi nawdd masnachol a chorfforaethol i dalu am y digwyddiad.

Artistaid golygu

Mae amrywiaeth eang iawn o gerddorion, beirdd, llenorion a pherfformwyr wedi cymryd rhan yn yr ŵyl ers ei sefydlu yn 2009.[3] Mae'n rhestr rhy hir i'w enwi. Dyma rai ohonynt:

Cerddorion - Candelas, Dafydd Iwan, Geraint Jarman, Celt (band), Cowbois Rhos Botwnog, Meic Stevens, Gwilym Bowen Rhys, Alys Williams, Nesdi Jones, Steve Eaves, Omaloma, Y Reu
Llenorion - Jon Gower, Angharad Price, Owen Martell, Lowri Haf Cooke, Mike Parker, Gwyneth Glyn, Rachel Trezise, Cynan Jones, Francesca Rhydderch
Meddylwyr - Simon Brooks, Richard Wyn Jones, Daniel Gwydion Williams
Beirdd - Ifor ap Glyn, Rhys Iorwerth, Twm Morys, Mari George, Osian Rhys Jones
Comedi - Beth Jones, Gary Slaymaker
Amrywiol - sesiynau bysgio, taith cwch ar afon Menai, Lowri Morgan yr athletwraig, Hywel Gwynfryn, Dona Direidi, Cwis Pop Dyl Mei, Carwyn Jones (y 'Dyn Gwyllt'), Twmpath Dawns, Rhys Mwyn, Geraint Løvgreen

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44824986
  2. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-12-23. Cyrchwyd 2018-11-24.
  3. http://www.gwylarall.com/