Henri d'Arbois de Jubainville
hanesydd Ffrengig (1827-1910)
(Ailgyfeiriad o D'Arbois de Jubainville)
Ysgolhaig a hanesydd Celtaidd o Ffrainc oedd Henri d'Arbois de Jubainville (5 Rhagfyr 1827 – 26 Chwefror 1910). Fe'i ganwyd yn Nancy.
Henri d'Arbois de Jubainville | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1827 Nancy |
Bu farw | 26 Chwefror 1910 14ydd arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, hanesydd, athro cadeiriol, archifydd, archeolegydd, llenor |
Cyflogwr | |
Tad | Charles Joseph d'Arbois de Jubainville |
Plant | Paul d'Arbois de Jubainville |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur |
Bywyd
golyguDechreuodd ei yrfa fel archifydd paleograffig yn 1851. Roedd yn gyfarwyddwr archifau département Aube hyd at ei ymddeoliad yn 1880. Loth oedd deiliad cyntaf y Gadair Geltaidd yn y Collège de France, Paris yn 1877. Ei olynydd a disgybl oedd yr ysgolhaig Llydaweg Joseph Loth.
Cyhoeddiadau
golygu- Histoire des ducs et comtes de Champagne depuis le VIe siècle jusqu'à la fin du XIe, 8 cy. (1859-69)
- Répertoire archéologique du département (1861)
- Étude sur la déclinaison des noms propres dans la langue franque à l'époque mérovingienne (1870)
- Les Premiers habitants d'Europe (1877) (hefyd mewn dwy gyfrol 1889; 1894)
- Les Intendants de Champagne (1880)
- Introduction à l'étude de la littérature celtique (1883)
- L'Épopée celtique en Irlande (1892)
- Études de droit celtique (1895)
- Les Principaux auteurs de l'Antiquité à consulter sur l'histoire des Celtes (1902)
- golygydd y Cours de littérature celtique (1908), mewn 12 cyfrol
- L'Épopée celtique en Irlande (1892) : cyfieithwyd fel The Irish Mythological Cycle gan R. I. Best a chyoeddwyd gan Arthur Griffith (United Irishman).