Joseph Loth
athro prifysgol, hanesydd, academydd, ieithydd, geiriadurwr (1847-1934)
Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Lydawr oedd Joseph Loth (27 Rhagfyr 1847 – 1 Ebrill 1934). Roedd yn frodor o Guémené-sur-Scorff, Llydaw. Roedd yn ddisgybl i d'Arbois de Jubainville.
Joseph Loth | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1847 ![]() Ar Gemene ![]() |
Bu farw | 1 Ebrill 1934 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Addysg | doethuriaeth ![]() |
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, athro cadeiriol, hanesydd, academydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Plant | Arthur William Loth ![]() |
Gwobr/au | Commandeur de la Légion d'honneur, Langlois prize ![]() |
Ar ôl cyfnod fel darlithydd ym Mhrifysgol Rennes bu'n athro yn y Collège de France, Paris hyd ei ymddeoliad yn 1930. Cyfranodd nifer o erthyglau a llyfrau ar yr ieithoedd Celtaidd a llenyddiaeth Geltaidd, yn arbennig llenyddiaeth Lydaweg a llenyddiaeth Gymraeg. Bu'n olygydd y cylchgrawn Revue Celtique.
Fe'i cofir yn bennaf yng Nghymru am ei gyfieithiad o'r Mabinogion i'r Ffrangeg (1889), sy'n glasur i'w gymharu â chyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest i'r Saesneg, a'i astudiaeth o fydryddiaeth Cymraeg Canol La Métrique Galloise (1900-1902).
Llyfryddiaeth ddetholGolygu
- Vocabulaire Vieux-breton (1884)
- L'Emigration Bretonne en Armorique (1885)
- Les Mabinogion (1889)
- Les Mots Latins dans les Langues Brittoniques (1892)
- La Métrique Galloise (1900-02)