Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

(Ailgyfeiriad o Ffiwsilwyr Cymreig)

Catrawd Gymreig yn y fyddin Brydeinig rhwng 1689 a 2006 oedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Saesneg: Royal Welch Fusiliers, ar rai adegau yn ei hanes Royal Welsh Fusiliers). Yn 2006, daeth yn fataliwn gyntaf catrawd newydd Y Cymry Brenhinol (the Royal Welsh).[1]

Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Enghraifft o'r canlynolcatrawd troedfilwyr y Fyddin Brydeinig Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Chwefror 2006 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Mawrth 1689 Edit this on Wikidata
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
Yn cynnwys1st Battalion, Royal Welch Fusiliers, 2nd Battalion, Royal Welch Fusiliers, 3rd (Royal Denbigh & Flint Militia) Reserve Battalion, Royal Welch Fusiliers, 1st Denbighshire Rifle Volunteers, 1st Flintshire Rifle Volunteers, 6th (Caernarvonshire and Anglesey) Battalion, Royal Welch Fusiliers, 7th (Merionethshire and Montgomeryshire) Battalion, Royal Welch Fusiliers, 8fed Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, 6th (Royal Welch) Parachute Battalion Edit this on Wikidata
PencadlysBarics Hightown Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhyfel Byd Cyntaf
Defod bwyta'r cennin yn Wrecsam. Ffotograff gan Geoff Charles (1949).

Ffurfiwyd y gatrawd yn 1689 gan William III, brenin Lloegr fel y 23rd Regiment of Foot. Yn 1702, cafodd y teitl The Welch Regiment of Fusiliers ac yn 1713 ychwanegwyd Royal at yr enw.

Ymladdodd y gatrawd mewn nifer fawr o ryfeloedd, yn cynnwys Rhyfel Annibyniaeth America, Rhyfeloedd Napoleon, Rhyfel y Crimea, Rhyfel y Boer, y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'r fataliwn 1af yn ymladd ym Mrwydr Coed Mametz yn 1916, a'r ail fataliwn ym Mrwydr Passchendaele yn 1917. Bu nifer o feirdd adnabyddus yn gwsanaethu yn eu rhengoedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys Hedd Wyn, Siegfried Sassoon, Robert Graves a David Jones.

Ar 18 Awst 1900 anfonwyd y Ffiwsilwyr drwy system garffosiaeth Beijing i ryddhau gwystlon yn Llysgenhadaeth Prydain. Ychydig ynghynt roedd miloedd o gymdeithas gyfrin 'y Bocswyr' (y mudiad Yihequan) wedi goresgyn y brifddinas gan ladd 290 o dramorwyr. Llwyddodd y Ffiwsilwyr i'w rhyddhau ond bu farw 28 ohonynt.[2]

Roedd pencadlys y gatrawd yn Wrecsam, a cheir amgueddfa'r gatrawd yng Nghastell Caernarfon.

Cyfuniad

golygu

Hyd at 2006, roedd yn un o bum catrawd nad oeddent wedi'u cyfuno gyda chatrawdau eraill, roedd felly'n un o'r catrawdau hynaf. Fe'i cyfunwyd, fodd bynnag, yn 2006 gyda Royal Regiment of Wales i greu catrawd newydd: 'y Cymry Brehninol'.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cannon, t. 13
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), tt. 109-10
  3. "Royal Welch Fusiliers". National Army Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-25. Cyrchwyd 24 Mai 2014.