Hannah Höch

Artist 'Dada' , Yr Almaen, 1920au

Roedd Hannah Höch (1 Tachwedd 188931 Mai 1978) yn artist ac mae hi heddiw yn cael ei chfyrif fel eicon ffeministaidd.[1] Fel rhan o grŵp o arlunwyr Dada yn Berlin yn y 1920au creodd Höch nifer o weithiau ffoto-montage arloesol.

Hannah Höch
FfugenwHöch, Hannah Edit this on Wikidata
GanwydAnna Therese Johanne Höch Edit this on Wikidata
1 Tachwedd 1889 Edit this on Wikidata
Gotha Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mai 1978 Edit this on Wikidata
Gorllewin Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGorllewin yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethffotograffydd, arlunydd, drafftsmon, arlunydd graffig, gludweithiwr, arlunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ullstein Verlag Edit this on Wikidata
Arddullffotogyfosodiad, portread Edit this on Wikidata
MudiadDada Edit this on Wikidata

Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20 ganrif fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'i dylanwadu gan waith collage Pablo Picasso a'r Dadawr Kurt Schwitters torrodd hi ddelweddau o hysbysebion a lluniau o gylchgronau a phapurau newydd a gludodd i greu montage.

Roedd cyfuniad y delweddau gwahanol yn cyfleu adlewyrchiad beirniadol o gyfryngau torfol a'r ffordd roeddent portreadi statws merched a delfrydau hyfrydwch. Mae gwaith fel Das schöne Mädchen (Y ferch hyfryd) o 1920 yn cael ei ystyri fel gwaith ffeministaidd arloesol.

Roedd y grŵp o arlunwyr Berlin roedd hi'n rhan ohono hefyd yn cynnwys John Heartfield, George Grosz ac Otto Dix. Daeth ddynion y grŵp yn enwog ond ni chafodd Höch yr un sylw tan lawer o flynyddoedd wedyn [2][3]

Am gyfnod roedd Höch yn gymar i'r arlunydd Dada Raoul Haussman. Roedd eu perthynas yn gythryblus gyda Haussman yn gwrthod gadael ei wraig am Höch gan alw dymuniad Höch i briodi yn syniad bourgeois. Roedd Haussman hefyd yn feirniadol o waith Höch. Ym 1922 dechreuodd perthynas gyda'r ysgrifennwr Mathilda ('Til') Brugman, y ddwy yn cyd-fyw am naw mlynedd.[4]

Ym 1935, dechreuodd Höch perthynas gyda Kurt Matthies, ac roedd y pâr yn briod rhwyg 1938 a 1944. Cafodd gwaith Höch ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Roedd y ffaith nad oedd ei gwaith wedi cael fawr o sylw yn fantais iddi beidio cael ei herlyn yn fwy gan y Natsïaid.[1]

Cafodd ei gwaith mwy o sylw wedi'r ail ryfel byd a daliodd ati'n creu gwaith ffoto-montage ac yn arddangos o amgylch y byd nes iddi farw ym 1978 yn 88 oed.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Dillon, Brian (2014-01-09). "Hannah Höch: art's original punk". The Guardian. ISSN 0261-3077. Retrieved 2016-03-04.
  2. https://www.artsy.net/artist/hannah-hoch
  3. http://www.theartstory.org/artist-hoch-hannah.htm
  4. Makela, Maria (1997). von Ankum, Katharina, ed. Women in the Metropolis: Gender and Modernity in Weimar Culture. Berkeley: University of California Press. pp. 119–121.

Dolennau allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: