Daeargryn Gorynys Noto (2024)

Ar Ddydd Llun 1 Ionawr 2024, am 16:10 Amser Safonol Japan (07:10 UTC), cafodd Gorynys Noto yn Nhalaith Ishikawa, yng ngogledd canolbarth ynys Honshū, Japan, ei tharo gan ddaeargryn a fesurai 7.6 ar raddfa Asiantaeth Feteorolegol Japan neu 7.5 ar raddfa maint moment. Cofnodwyd uwchganolbwynt y ddaeargryn 7 cilometr (4.3 mi) i ogledd-ogledd-orllewin dinas Suzu. Hon oedd y ddaeargryn fwyaf yn Japan ers daeargryn Ogasawara yn 2015.

Daeargryn Gorynys Noto
Enghraifft o'r canlynolDaeargryn Edit this on Wikidata
Dyddiad1 Ionawr 2024 Edit this on Wikidata
Lladdwyd241 Edit this on Wikidata
Rhan oNoto earthquake swarm Edit this on Wikidata
LleoliadNoto Peninsula Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
RhanbarthIshikawa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Wedi'r ysgytwad, cyhoeddwyd rhybudd tswnami, a chyngor hefyd o bosibilrwydd tswnami ar hyd bron holl arfordiroedd Môr Japan, gan gynnwys gorllewin ynys Hokkaido yng ngogledd Japan, ynys Sakhalin a chreiau Khabarovsk a Primorsk yn Rwsia, dwyrain Gogledd Corea, a gogledd-ddwyrain De Corea. Gorchmynnwyd i 50,000 o bobl adael aneddiadau ar hyd arfordir Talaith Ishikawa a llochesu yng nghanol y tir. Yn hwyr y prynhawn mesurwyd tswnami o 1.2 metr (3 tr 11 mod) yng Ngorynys Noto.[1] Er yr oedd yn llawer llai na'r rhagdybiad—bu ofn ar y cychwyn y gallai tonnau gyrraedd uchder o 5 metr (16 tr)—difrodwyd nifer o gartrefi, porthladdoedd, ac adeiladweithiau eraill ar lan y môr, a chafodd nifer o gychod pysgota eu suddo neu eu hysgubo i mewn i'r wlad.[1][2]

Trannoeth, cyhoeddwyd o leiaf 48 o farwolaethau, y mwyafrif o ganlyniad i hen dai pren yn cwympo. Un o'r cymunedau a effeithwyd oedd Wajima, ar lan y môr rhyw 20 milltir o uwchganolbwynt y ddaeargryn, lle cychwynnodd tanchwa o ganlyniad i'r difrod a losgodd o leiaf 200 o adeiladau yng nghanol y dref dros nos.[2]

Dilynwyd y ddaeargryn gan nifer o ôl-gryniadau ar hyd arfordir gogleddol Honshū yn bennaf, gan gynnwys graddfa 5 yn Kashiwazaki a graddfa 4 yn Komatsu, Kanazawa, Toyama, Joetsu, ac yn fewndirol yn Nagano a Niigata.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Kathleen Benoza ac Yukana Inoue, (Saesneg) "Strong quake prompts tsunami warning for Japan's western coast", The Japan Times (1 Ionawr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Julian Ryall, "Powerful aftershocks rock Japan after New Year's Day earthquake kills 48", The Daily Telegraph (2 Ionawr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2023.