Daearyddiaeth Brasil
O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Gweriniaeth Pobl Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgwái, yr Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sef Tsile ac Ecwador.
Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig y Rio Negro.
Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paraná yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwâi a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno â hi.
Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law dorfannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.