Daearyddiaeth Malawi
Mae Malawi, yn wlad yn nwyrain Affrica. Mae Sambia i'r gogledd orllewin a Tansanïa i'r gogledd ddwyrain a Mosambic i'r dwyrain, y de a'r gorllewin. Mae yn cael ei gwahannu oddi wrth Tansanïa a Mosambic gan Lyn Malawi. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn afon Shire. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd Nacala a Beira yn Mosambic.
Rhed y Dyffryn Hollt Mawr ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag afon Zambezi yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m ym Mynyddoedd Mulanje.
Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw Blantyre, gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas, Lilongwe, dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.