Llyn Malawi
Llyn yn ne-ddwyrain Affrica yw Llyn Malawi (weithiau Llyn Nyasa). Ef yw'r trydydd llyn yn Affrica, a'r nawfed yn y byd, o ran arwynebedd, a'r ail ddyfnaf yn Affrica. Saif rhwng Malawi, Mosambic a Thansanïa.
![]() | |
Math |
Rift Valley lake ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Lake Malawi National Park, African Great Lakes ![]() |
Gwlad |
Malawi, Mosambic, Tansanïa ![]() |
Arwynebedd |
29,600 km² ![]() |
Uwch y môr |
474 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Chintheche ![]() |
Cyfesurynnau |
12.1833°S 34.3667°E ![]() |
Llednentydd |
Afon Dwangwa, Afon Lilongwe, Q2175154, Afon South Rukuru, Afon Songwe, Lufira ![]() |
Dalgylch |
6,593 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
570 cilometr ![]() |
![]() | |
Llyn hir a chul yw Malawi; rhwng 560 a 579 km o hyd a 75 km o led yn ei fan lletaf. Yn ei fan dyfnaf, mae'n cyrraedd dyfnder o 709 medr. Ceir mwy o rywogaethau o bysgod yn y llyn yma nag yn unrhyw lyn arall yn y byd. Ceir dwy ynys a phoblogaeth arnynt yn y llyn, Likoma a Chizumulu, y ddwy yn perthyn i Malawi.
Y brif afon sy'n llifo i mewn iddo yw afon Ruhuhu, ac mae afon Shire yn llifo allan, i ymuno ag afon Zambezi. Enwyd ef yn Lyn Nyasa gan David Livingstone, yr Ewropead cyntaf i gyrraedd y llyn, yn 1859. Ym Malawi gelwir ef yn Llyn Malawi, ond mae Tansanïa yn defnyddio "Llyn Nyasa". Mae rhywfaint o anghytunbeb rhwng Malawi a Thansanïa am union leoliad y ffîn rhwng y ddwy wlad ar draws y llyn.