Daearyddiaeth Sbaen
Mae daearyddiaeth Sbaen yn gymhleth am ei bod yn wlad ag iddi sawl rhanbarth arbennig ac a rennir gan sawl cadwyn o fynyddoedd ac afonydd mawr.
Mae Sbaen yn wlad yn ne-orllewin Ewrop sy'n llenwi'r rhan fwyaf o orynys Iberia ac yn gorwedd rhwng yr Iwerydd i'r gogledd a gorllewin a'r Môr Canoldir i'r de a'r dwyrain. Mae Culfor Gibraltar yn gorwedd rhyngddi a Gogledd Affrica. Yn nhermau daearyddiaeth wleidyddol, mae hi'n ffinio â Portiwgal i'r gorllewin, Moroco a Gibraltar i'r de, a Ffrainc ac Andorra i'r gogledd dros y Pyreneau.
Ceir llawer o lwyfandiroedd uchel a mynyddoedd fel y Sierra Nevada a'r Picos de Europa. Rhed sawl afon o'r ucheldiroedd: Afon Tajo, Afon Ebro, Afon Duero, Afon Guadiana a'r Guadalquivir, er enghraifft.