Agor y brif ddewislen

Tiriogaeth tramor, sy'n cael ei hawlio gan y Deyrnas Gyfunol yw Gibraltar. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd, gyda'r ffin yn 1.2-kilometr (0.75 milltir), ac mae Culfor Gibraltar i'r de.[1] Ei arwynebedd yw 6.7 km2 (2.6 milltir sgwâr) a'i boblogaeth yw 33,140.[2] Mae Craig Gibraltar yn dominyddu'r olygfa, o bob cyfeiriad.

Gibraltar
Gibraltar aerial view looking northwest.jpg
Coat of arms of Gibraltar1.svg
Arwyddair Bathodyn Craig Gibraltar Edit this on Wikidata
Math Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Tariq ibn Ziyad Edit this on Wikidata
Prifddinas Gibraltar Edit this on Wikidata
Poblogaeth 33,140 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1704 Edit this on Wikidata
Anthem God Save the Queen, Gibraltar Anthem Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Fabian Picardo Edit this on Wikidata
Cylchfa amser CET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Funchal, Ballymena, Singapôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arwynebedd 6.843 ±0.001 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 11 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Alboran, Bae Gibraltar, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Sbaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 36.13775°N 5.34536°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Gibraltar Parliament Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Fabian Picardo Edit this on Wikidata
Arian punt Gibraltar Edit this on Wikidata

Yn strategol, mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.

HanesGolygu

Ceir olion pwysig o'r Neanderthal yn Gibraltar, sy'n dyddio i rhwng 40,000 i 50,000 o flynyddoedd yn ôl ac ystyrir Ogof Gorham yn hynod o bwysig.[3]

Ym 1704, cymerwyd Gibraltar o Sbaen gan luoedd Prydeinig ac Iseldiraidd yn ystod 'Rhyfel Olyniaeth Sbaen'. Ildiwyd y diriogaeth i’r Deyrnas Unedig "am byth" pan arwyddwyd Cytundeb Utrecht ym 1713. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd e’n sylfaen bwysig i’r Llynges Frenhinol, gan fod y penrhyn yn rheoli’r mynediad i Fôr y Canoldir, sydd yn ddim ond 8 milltir o led yn y man culaf.

Mae'n parhau i fod yn strategol bwysig heddiw, gyda hanner llongau masnach y byd yn pasio drwy'r culfor yma.

Heddiw, mae economi Gibraltar yn seiliedig ar dwristiaeth, gamblo ar-lein, gwasanaethau ariannol a darparu tanwydd i longau cargo.[4][5][6]

Yr enwGolygu

Daw enw'r diriogaeth o'r enw Arabeg gwreiddiol Jabal Ţāriq (جبل طارق), sef "mynydd Tariq". Cyfeiria at y cadfridog Berber Umayyad Cadfridog Tariq ibn-Ziyad, a arweiniodd oresgyniad rhan o Iberia yn 711 gan filwyr o'r Maghreb. Cyn hynny fe'i hadnabuwyd fel Mons Calpe, un o Bileri Hercules. Heddiw gelwir Gibraltar yn "Gib" neu "y Graig" ar lafar gwlad.

SofraniaethGolygu

Un o brif faterion llosg yn y berthynas rhwng Prydain a Sbaen yw sofraniaeth Gibraltar. Mae Sbaen yn gofyn am ddychwelyd yr ardal i'w gwlad wedi i sofraniaeth Sbaen drosti gael ei hildio yn 1713. Fodd bynnag, mae rhan fwyaf trigolion Gibraltar (Saeson, neu ddisgynyddion i Saeson) wedi gwrthod hyn.[7] Gwrthododd y pobl Gibraltar cynigion sofraniaeth sbaeneg mewn refferendwm ym 1967, a gwrthodon nhw rannu sofraniaeth rhwng y ddwy wlad mewn refferendwm arall yn 2002.

 
Gibraltar
  1. Dictionary.com: Gibraltar
  2. https://www.gibraltar.gov.gi/new/sites/default/files/HMGoG_Documents/Abstract%202014.pdf.
  3. Choi, Charles (2006). "Gibraltar". MSNBC. Cyrchwyd 8 Ionawr 2010.
  4. "Inside the rock: Gibraltar's strategic and military importance is complemented by financial and gaming leadership". City AM. 12 November 2015. Cyrchwyd 2 April 2017.
  5. Foreign and Commonwealth Office. "Country Profiles: Gibraltar"., Foreign and Commonwealth Office, 6 May 2010; adalwyd 16 Ebrill 2015
  6. Daniel Boffey a Sam Jones (Tachwedd 2017) "Gibraltar heading for abrupt exit from single market, says Spain" The Guardian
  7. "History and Legal Aspects of the Dispute". The Ministry of Foreign Affairs, European Union and Cooperation. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2018.