Daearyddiaeth gymdeithasol

Is-faes o ddaearyddiaeth ddynol yw daearyddiaeth gymdeithasol sydd yn astudio rhaniadau dosbarth, ethnig, crefyddol, rhyweddol, rhywiol, ac oed o fewn cymdeithas. Mae gwaith y daearyddwr cymdeithasol yn cynnwys llunio mapiau o ddemograffeg gwahanol grwpiau cymdeithasol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, ac ymchwilio i'r anghydraddoldebau o gymharu gwahanol grwpiau a'r gwrthdaro rhyngddynt. Ysgrifennir astudiaethau manwl yn mynd i'r afael â'r rhan sydd gan leoliad a gofod mewn ymddygiad cymdeithasol, er enghraifft wrth archwilio daearyddiaeth trosedd neu ddaearyddiaeth darpariaeth addysg. Mae daearyddiaeth gymdeithasol hefyd yn ymwneud â sut mae pobl yn creu cynrychioliadau meddyliol o'u daearyddiaeth ac yn eu trosglwyddo. Mae daearyddiaeth gymdeithasol yn aml yn gorgyffwrdd â daearyddiaeth economaidd, daearyddiaeth wleidyddol, a daearyddiaeth drefol.

Hanes y ddisgyblaeth golygu

Datblygodd daearyddiaeth gymdeithasol fel is-faes arbennig o ddaearyddiaeth ddynol yn ystod ail hanner yr 20g, ar y cyd â mudiadau ac ysgolion meddwl a oedd yn canolbwyntio ar faterion newydd i'w trafod o ganlyniad i fodernedd, ac yn cymhwyso dulliau gwyddorau cymdeithas at ddatrys problemau cymdeithasol a gwleidyddol. Defnyddiwyd methodoleg y gwyddorau gofodol i gofnodi a modelu'r patrymau trigiannol sydd yn nodweddu gwahanol boblogaethau ac i ganfod eu hanghenion cymdeithasol.[1]

Yn y 1970au, cafodd ystadegaeth gymdeithasol ei herio gan ddaearyddwyr "dyneiddiol", a oedd yn amau defnyddio fformiwlâu mathemategol i ddatrys problemau cymdeithasol. Tynnodd y to newydd o ddaearyddwyr cymdeithasol ar athroniaeth ffenomenoleg a thechnegau ethnograffig i lunio astudiaethau cysyniadol ac empiraidd o bobl yn eu bydoedd cymdeithasol. Ar yr un pryd, defnyddiwyd damcaniaethau Marcsaidd a ffeministaidd i lunio daearyddiaethau radicalaidd yn y maes, gyda'r nod o amlygu profiadau unigolion a anghydraddoldebau mewn amodau byw, ac i drafod y realiti gymdeithasol yn feirniadol ac i herio'r status quo.[1]

Ers dechrau'r 1990au, cafwyd dylanwad mawr ar y maes gan ddamcaniaethau ôl-fodernaidd ac ôl-strwythurol sydd yn cwestiynu'r meta-naratifau a gyflwynir gan yr hen ddulliau. Mae daearyddwyr cymdeithasol yn canolbwyntio'n fwyfwy ar ddisgyrsiau cymdeithasol a diwylliannol sydd yn fframio bywydau pobl yn nhermau gwahaniaeth, gofod, lle, a grym.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Ruth Panelli, "Social geography" yn Encyclopedia of Human Geography, golygwyd gan Barney Warf (Thousand Oaks, Califfornia: SAGE, 2006), tt. 430–4.