Daf James

sgriptiwr ffilm, actor a chyfansoddwr o Gymro

Dramodydd, sgriptiwr, cyfansoddwr a perfformiwr o Gymro yw Daf James (ganwyd 1979). Mae wedi creu gwaith ar gyfer theatr, radio, teledu a ffilm ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Daf James
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, dramodydd, cyfansoddwr, sgriptiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Magwyd Dafydd Huw James yn y Y Bont-faen. Cafodd ei addysg yn Ysgol Iolo Morganwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.[1] Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin gan raddio yn 2001. Aeth ymlaen i hyfforddi yn y London School of Performing Arts (LISPA).[2]

Yn 2011 cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Warwick.[3]

Bu'n byw yn Llundain am gyfnod cyn dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Yn 2010 ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, Llwyth, a gynhyrchwyd gan Sherman Cymru a'i berfformio am y tro cyntaf yn Chapter, Caerdydd. Yn ddiweddarach aeth y ddrama ar daith o amgylch Cymru a Llundain.[2]

Fel sgriptiwr, ysgrifennodd ar gyfer y Fiction Factory ar y gyfres deledu Gymraeg Caerdydd a chafodd ei gomisynu i ysgrifennu dwy ddrama ar gyfer Script Cymru.

Mae ef wedi cyfansoddi a chyfarwyddo nifer o sioeau gan gynnwys The Hunting of the Snark; Ghost Shirt; Mythed; Pinocchio; Apocalypse Wow; If That’s All There Is; Blast; Woof Woof Kerching a Geek Tragedy yng Canolfan y Mileniwm, Caerdydd; Under Milk Wood, Strike 25 (Mess up the Mess) a Plentyn yr Eira.

Mae ef wedi perfformio gyda chwmnïau Theatr Genedlaethol Cymru; Theatr Na N’og; yn ogystal â bod yn athro ac yn westai arbennig i'r RSAMD; Sherman Cymru; BAC; y Lyric (Hammersmith); a'r Gate.

Yn 2024 darlledwyd ei ddrama deledu Lost Boys & Fairies ar rwydwaith Brydeinig y BBC. Mae'r gyfres yn dilyn hanes pâr hoyw wrth iddynt fabwysiadu plentyn. Rhan o hynodrwydd y gyfres yw bod y sgript yn y Gymraeg a'r Saesneg gan adlewyrchu realiti ieithyddol y cymeriadau.[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Adnabod awdur - Daf James" (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru. Mai 2024.
  2. 2.0 2.1 "Lle Mae'r Llwythau'n Dod Ynghyd | Barn". barn.cymru. Cyrchwyd 2024-06-13.
  3. "Playwright Dafydd James on his very special new collaboration - Wales Online". www.walesonline.co.uk. Cyrchwyd 2024-06-13.
  4. "Daf James yn dod â'r Gymraeg i primetime". BBC Cymru Fyw. 4 Mehefin 2024.