Dan Beddoe

canwr opera Cymreig

Roedd Dan Theophilus Beddoe (16 Mawrth 186326 Rhagfyr 1937) yn denor Cymreig, a oedd yn arbennig o nodedig am ei berfformiadau oratorio dros yrfa yn rhychwantu 50 mlynedd.[1]

Dan Beddoe
Dan Beddoe yn 1918
Ganwyd16 Mawrth 1863 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1937 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner UDA UDA
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
PlantDon Beddoe Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Beddoe yn Aberdâr, Sir Forgannwg yn blentyn i Thomas Beddoe, glöwr, a Gwenllian (née Theophilus) ei wraig.

Wedi ymadael a'r ysgol bu Beddoe yn gweithio fel glöwr yng ngwaith Penygraig, Aberdâr.[2]

Mae nifer o erthyglau yn honni bod Beddoe wedi ennill Medal Aur a'r Wobr Gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn 19 oed [3], ond does dim sôn amdano yn adroddiadau Eisteddfodol 1881-1883, pan byddai tua 19 mlwydd oed. Yr adroddiad cyntaf am lwyddiant eisteddfodol Beddoe yng nghasgliad Papurau Cymru y Llyfrgell Genedlaethol yw un am ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Nadolig Capel Jerwsalem, Llwynypia 1884.[4]. Mae ei enw'n codi'n aml wedyn yn adroddiadau eisteddfodau lleol. Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr 1885 (pan oedd yn 22 mlwydd oed) enillodd y wobr gyntaf o 3 gini yn y gystadleuaeth ar gyfer Tenoriaid.[5] Wedi ei lwyddiant genedlaethol daeth yn berfformiwr cyson a phoblogaidd mewn cyngherddau ar hyd y de am y tair flynedd nesaf.[6]

Ym mis Medi 1888 hwyliodd Beddoe i'r Unol Daleithiau [7]. Ymsefydlodd ym maes glo Cuyahoga County, Cleveland, Ohioh. Yn Cleveland ymunodd â Chôr Meibion Cymreig Dinas Lake Shore fel un o'r prif denoriaid.[8] Dechreuodd derbyn gwersi canu gan yr athro gerdd Almaeneg John Underner. Ym 1894 daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau [9]. Erbyn 1900 roedd wedi symud i fyw i Allegheny, Pennsylvania, ac yn disgrifio ei hun fel Cerddor yng ngholofn Galwedigaeth y cyfrifiad.[10] Parhaodd i dderbyn addysg gerddorol o dan yr arweinydd Cymreig John Thomas Davies.

Ar ôl ei glywed mewn cyngerdd, fe wnaeth Walter Damrosch ei gyflogi fel unawdydd tenor ar gyfer perfformiad o Requiem Hector Berlioz yr oedd yn ei arwain yn Neuadd Carnegie ym 1903 - ymddangosiad cyntaf swyddogol Beddoe fel unawdydd oratorio. Y flwyddyn ganlynol aeth ar daith gyda Damrosch a Ffilharmonig Efrog Newydd yn canu rôl y teitl mewn perfformiadau cyngerdd o Parsifal. Wedi hynny, aeth ar deithiau eang yn yr UD a Phrydain, ac ymddangosodd yn aml gyda Chymdeithas Oratorio Efrog Newydd. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda'r gymdeithas ym 1905 fel yr unawdydd tenor ym première yr Unol Daleithiau o Taillefer Richard Strauss dan arweiniad Damrosch.

Rhwng 1919 a 1935 bu Beddoe yn athro yng Nghonservatoire Cerdd Cincinnati, ond parhaodd â'i yrfa berfformio hefyd. Yn 1933, yn 70 oed canodd fel yr unawdydd tenor ym Meseia Handel gyda Chymdeithas Oratorio Efrog Newydd.

Ym 1891 priododd Beddowe â Mary Jane Jones, merch o Drefynwy cawsant tri o blant. Ei fab ieuengaf oedd yr actor cymeriad Americanaidd Don Beddoe (1903-1991)

Marwolaeth

golygu

Ymddeolodd Beddoe ym 1935 ar ôl iddo gael ei anafu mewn damwain car yn Cincinnati. Bu farw’n sydyn yn Ninas Efrog Newydd yn 74 oed tra roedd ef a’i wraig Mary yn ymweld â’u mab.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Daniel Beddoe (1863-1937)". 2016-02-13. Cyrchwyd 2020-10-09.
  2. [Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad Aberdâr 1881 Cyfeirnod: RG11/ 5298; Ffolio: 59; Tudalen: 38
  3. Steane, J. (2013). Beddoe, Dan. Yn The Grove Dictionary of American Music.: Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd 9 Hydref. 2020
  4. "EISTEDDFOD LLWYNPIA Y NADOLIG - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1885-01-01. Cyrchwyd 2020-10-09.
  5. "YR EISTEDDFOD - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1885-09-03. Cyrchwyd 2020-10-09.
  6. "TREHARRIS CYNGHERDD - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1886-05-27. Cyrchwyd 2020-10-09.
  7. Archifau Cenedlaethol, Washington, D.C. Rhestrau Teithwyr ar longau sy'n cyrraedd Efrog Newydd, Efrog Newydd, 1820-1897 Cyf: NAI6256867
  8. "CLEVELAND O. - Y Drych". Mather Jones. 1890-01-30. Cyrchwyd 2020-10-09.
  9. Ohio, County Naturalization Records, 1800-1977. Salt Lake City, Utah: FamilySearch, 2013
  10. Cyfrifiad yr UD Allegheny; Ward 11, Allegheny, Pennsylvania; Tud: 8; Dosbarth Rhifo: 0090