Llwynypia

pentref yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Llwynypïa)

Pentref a chymuned yng Nghwm Rhondda, ym mwrdeistref Rhondda Cynon Taf, yw Llwynypia[1][2] neu Llwyn-y-pia. "Pioden" yw ystyr pia,[3] a benthyciwyd enw'r dref o enw fferm a fu yma ar un cyfnod. Ardal amaethyddol oedd hon hyd at 1850 pan dyllwyd sawl glofa yn y cyffiniau; gwelodd y dref gynnydd aruthrol yn ei phoblogaeth rhwng 1860 a 1920.

Llwynypia
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlwyn-y-Pia Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6351°N 3.4486°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS998939 Edit this on Wikidata
Cod postCF40 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map

Ceir ambell garnedd o Oes yr Efydd ar Fynydd y Gelli, i'r gorllewin o'r dref, yn ogystal â charnedd Hendre'r Gelli, sy'n dyddio o'r Oes Haearn.

Ystadegau:[4]

  • Mae gan y gymuned arwynebedd o 2.584 km².
  • Yng Nghyfrifiad 2001 roedd ganddi boblogaeth o 2,253.
  • Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 2,247.
  • Yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020 roedd ganddi boblogaeth o 2,242, gyda dwysedd poblogaeth o 867.8/km².

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Chris Bryant (Llafur).[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhestr o Enwau Lleoedd Comisynydd yr Iaith Gymraeg, adalwyd 24 Mehefin 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 25 Rhagfyr 2021
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, adalwyd 24 Mehefin 2021.
  4. City Population; adalwyd 25 Rhagfyr 2021
  5. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-25.
  6. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.