Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion)

offeiriad a bardd

Bardd Cymraeg ac offeiriad oedd Daniel Evans neu Daniel Ddu o Geredigion (5 Mawrth 179228 Mawrth, 1846). Roedd yn frodor o Ddyffryn Aeron, Ceredigion. Daeth i amlygrwydd fel bardd yn ifanc pan gynhwyswyd rhai o'i gerddi yn y flodeugerdd ddylanwadol Blodau Dyfed (1824).

Daniel Evans
Ganwyd1792 Edit this on Wikidata
Llanfihangel Ystrad Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1846, 1846 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, offeiriad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Daniel Ddu ym ffermdy Maesmynach, ar lan afon Granell, plwyf Llanfihangel Ystrad, yn ne Ceredigion, rywbryd ym 1792, yn fab i David a Sarah Evans. Symudodd y teulu i fyw mewn ffermdy yr ochr arall i afon Granell ym mhlwyf Llanwnen lle treuliodd wedill ei oes. Yn hen lanc o offeiriad, un o'i bleserau mwyaf oedd pysgota yn afonydd Aeron a Theifi.

Cafodd Daniel Ddu ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanbedr dan Elezer Williams, mab Peter Williams. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Er iddo ddod yn offeiriad ymddengys nad ymgymerodd â gofal unrhyw blwyf. Un o'i gyfeillion gorau oedd y llenor Gwallter Mechain.

Gwaith llenyddol golygu

Enillodd sawl tlws eisteddfodol, e.e. y Gadair yn Eisteddfod Dyfed 1823. Cyhoeddwyd ei waith yn y gyfrol Gwinllan y Bardd (1831) ac chafwyd dau argraffiad arall ohoni yn ddiweddarach gyda rhagor o gerddi (yr olaf ym 1906).

Cerddi telynegol am fyd natur, emynau ac englynion yw ei gerddi byrion. Cyfansoddodd hefyd sawl awdl eisteddfodol ar destunau crefyddol neu hanesyddol, yn ôl chwaeth ac arfer ei gyfnod. Ceir ei waith gorau yn y cerddi byrion syml sy'n ymwneud â chefn gwlad Ceredigion a'i gymeriadau.

Dyma englyn o'i waith i raeadr Bont ar Fynach:

Wyt gadwyn yn dwyn dywenydd — a chlod
Gwych lydan trwy'n bröydd;
A rhaff, na ddaw byth yn rhydd,
Wyd i fwnwgwl dau fynydd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Blodau Dyfed (1824)
  • Gwinllan y Bardd (Llanbedr Pont Steffan, 1906)

Cyfeiriadau golygu

  • Cofiant gan Daniel Sylvan Evans yn Gwinllan y Bardd
  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig, 1800-1900 (Lerpwl, 1922)