Daniel Huws

Palaeograffwr ac ysgolhaig o Gymro

Mae Daniel Huws (ganwyd Mehefin 1932) yn arbennigwr ar lawysgrifau Cymraeg. Caiff ei gydnabod fel prif awdurdod y genedl ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig gan wella'n sylweddol ar waith John Gwenogvryn Evans.[1]

Daniel Huws
Ganwyd1932 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylPenrhyn-coch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
MamEdrica Huws Edit this on Wikidata
Gwobr/auDerek Allen Prize, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Huws yn Llundain a Môn, a mynychodd ysgol yn Llangefni cyn astudio Archaeoleg ac Anthropoleg yn Peterhouse, Caergrawnt.[2] Fel myfyriwr, daeth Huws yn ffrind agos i Ted Hughes, ac mae ei gofiant Memories of Ted Hughes 1952–1963 yn croniclo ei brofiadau o'r bardd yn ifanc, ei gylch cymdeithasol yng Nghaergrawnt, datblygiad ei berthynas â Sylvia Plath, a'u bywyd hwyrach yn Llundain.

Gwaith golygu

Fe'i benodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1961. Fe’i dyrchafwyd yn Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau y Llyfrgell yn 1981, ac ymddeolodd yn 1992. Mae hefyd yn aelod o'r Academi Gymreig.[3]

Mae'n nodedig am ei astudiaethau o lawysgrifau unigol, a'r rhain, ynghyd â phortreadau o gasglwyr o bwys yn y Dadeni, a gynhwysir yn ei waith Medieval Welsh Manuscripts, a gydnabyddir bellach fel testun academaidd allweddol y darn hwn o hanes a diwylliant ysgrifenedig Cymru.[4] O 2015 ymlaen, mae ei waith yn canolbwyntio ar hanes llawysgrifau Cymraeg yn parhau hyd at 1800.

Mae ei waith hefyd wedi cynnwys prosiectau eraill ar Gymru, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion, Beirdd yr Uchelwyr, Testynau Rhyddiaith o Lawysgrifau, a The Poems of Dafydd ap Gwilym. Mae wedi ysgrifennu ar gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â chyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth gyda Secker a Warburg a Faber and Faber. Yn gyfaill prifysgol ac yn gydymaith i Ted Hughes, mae wedi ysgrifennu cofiant o'r bardd.

Yn 2022, wythnos cyn ei ben-blwydd yn 90 oed, cyhoeddodd A Repertory of Welsh Manuscrips and Scribes, c.800-c.1800, a ddisgrifir fel y "cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy". Mae’r tair cyfrol yn edrych ar lawysgrifau sy’n cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, y Llyfrgell Brydeinig, a Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, yn ogystal â llawysgrifau sy’n cael eu cadw tu hwnt i wledydd Prydain mewn llefydd fel prifysgolion Yale a Harvard.[5]

Ymgyrchodd Huws a'i wraig yn aflwyddiannus i atal cau'r eglwys Gatholig yng nghanol Aberystwyth. Roedd ei chwaer yn gweithio fel arlunydd ym Mharis.

Anrhydeddau golygu

Dyfarnwyd Gwobr Derek Allen iddo gan yr Academi Brydeinig yn 2006.[6] Yn 2012, derbyniodd radd M.A. er anrhydedd ac yn 2017, derbyniodd radd D.Litt., y ddau gan Brifysgol Cymru.[7]

Cyhoeddiadau golygu

Gweithiau academaidd golygu

  • Huws, Daniel (1986). "The texts: ii. The manuscripts". In Charles-Edwards, T. M.; Owen, Morfydd E.; Walters, D. B. (gol.). Lawyers and Laymen: studies in the history of law. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Peniarth 28: darluniau o Lyfr Cyfraith Hywel Dda / Illustrations from a Welsh lawbook, Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1988.
  • Llyfr Aneirin: a facsimile, Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1989.
  • "Llyffr Gwyn Rhydderch". Cambridge Medieval Celtic Studies 21: 1–37. 1991.
  • Cardiff MSS: Summary Catalogue of the Manuscripts, Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1994.
  • Five Ancient Books of Wales, H. M. Chadwick Memorial Lectures 6, Cambridge: Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, University of Cambridge, 1995.
  • Medieval Welsh Manuscripts, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000.
  • Huws, Daniel (2000). "Descriptions of the Welsh manuscripts". In Charles-Edwards, T. M.; Owen, Morfydd E.; Russell, Paul (gol.). The Welsh King and his Court. Cardiff: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 415–24.
  • Edrica Huws Patchworks / Clytweithiau Edrica Huws (co-editor) (Manaman, 2007)
  • "From song to script in medieval Wales". Quaestio Insularis 9: 1–16. 2008.
  • Huws, Daniel (2011). "The Neath Abbey Breviate of Domesday". In Griffiths, Ralph A.; Schofield, Phillipp R. (gol.). Wales and the Welsh in the Middle Ages: essays presented to J. Beverley Smith. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 46–55. ISBN 9780708324462.
  • A Repertory of Welsh Manuscrips and Scribes, c.800-c.1800, Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2022. ISBN 978-1-86225-121-2

Barddoniaeth golygu

  • Noth, Secker, 1972.
  • The Quarry, Faber, 1999.

Cofiannau golygu

  • Memories of Ted Hughes, 1952–63, Five Leaves, 2010.
  • Jones, Tegwyn; Fryde, Edmund Boleslaw, gol. (1994). Ysgrifau a cherddi cyflwynedig i Daniel Huws / Essays and poems presented to Daniel Huws. Aberystwyth: National Library of Wales.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Derek Allen Prize 2006 awarded to Daniel Huws". British Academy. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 19 Oct 2015.
  2. 'Cambridge Tripos', Times, 18 June 1955, p. 8.
  3. "Writers of Wales – Daniel Huws". Literature of Wales. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 18 October 2015.
  4. "Daniel Huws profile – Derek Allen Prize". British Academy. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 18 Oct 2015.
  5. Cyhoeddi’r astudiaeth “bwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg ers canrif a mwy” , Golwg360, 20 Mehefin 2022.
  6. Gwobr arbennig i Daniel , BBC Cymru, 3 Ionawr 2007. Cyrchwyd ar 21 Mehefin 2022.
  7.  D.Litt. i Daniel Huws. Llyfrgell Genedlaethol Cymru (8 Tachwedd 2017). Adalwyd ar 20 Mehefin 2022.