Llenor Almaeneg o dras Awstriaidd ac Almaenig yw Daniel Kehlmann (ganwyd 13 Ionawr 1975). Ysgrifennodd y nofel Almaeneg a werthodd orau yn y chwarter ganrif diwethaf Die Vermessung der Welt (a gyfieithwyd i Saesneg gan Carol Brown Janeway fel Measuring the World, 2006). Mae dylanwad realaeth hudol ar ei waith, rhyddhad o ddylanwad yr hen do o awduron wedi'r rhyfel sef y Grwp 47. Enillodd y gwobrau pwysig isod.

  • 1998 Förderpreis des Kulturkreises beim Bundesverband der Deutschen Industrie
  • 2000 Stipendium des Literarisches Colloquiums in Berlin
  • 2003 Förderpreis des Österreichischen Bundeskanzleramtes
  • 2005 Candide-Preis, Minden.
  • 2006 Literaturpreis der Konrad-Adenauer-Stiftung; Heimito-von-Doderer-Preis
Daniel Kehlmann
Ganwyd13 Ionawr 1975 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Awstria Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, nofelydd, llenor Edit this on Wikidata
Blodeuodd2019 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Mainz Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMeasuring the World, Q1884880, Me and Kaminski, Fame Edit this on Wikidata
Arddullrhyddiaith Edit this on Wikidata
TadMichael Kehlmann Edit this on Wikidata
PerthnasauEduard Kehlmann Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Per Olov Enquist, Nestroy Award, Gwobr Thomas-Mann, Gwobr Lenyddol Heimito von Doderer, Gwobr Kleist, Candide Preis, Gwobr Anton Wildgans, Schubart-Literaturpreis, Gwobr Friedrich-Hölderlin, Austrian Promotional Prize for Literature, Gwobr Ludwig-Börne Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.kehlmann.com Edit this on Wikidata

Fe anwyd Kehlmann ym München, yn fab i'r cyfarwyddwr teledu Michael Kehlmann. Magwyd e yn Fienna, cartref ei dad..

Dechreuodd cyhoeddu yn 1997 tra yn fyfyriwr gyda'i nofel, Beerholms Vorstellung, Mae'n cyfrannu i bapurau cenedlaethol yr Almaen Süddeutsche Zeitung, Frankfurter Rundschau, Frankfurter Allgemeine Zeitung, a Literaturen.

O 2001 roedd Kehlmann yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Johannes Gutenberg ym Mainz ac ym mhrifysgolion Wiesbaden, a Göttingen. Fe dderbyniodd ef i'r Mainzer Akademie der Wissenschaften und der Literatur. Eironi y peth oedd iddo fethu cwblhau ei PhD am fod e mor boblogaidd fel awdur.

Llyfryddiaeth

golygu

Dolenni allanol

golygu