Darius II, brenin Persia
Brenin Ymerodraeth Persia oedd Darius II, Hen Berseg: Dārayavahuš, enw gwreiddiol Ochus (bu farw 404 CC).
Darius II, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | 475 CC Persis |
Bu farw | 404 CC Babilon |
Dinasyddiaeth | Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
Galwedigaeth | teyrn, Shah |
Swydd | Pharo |
Rhagflaenydd | Arsites |
Tad | Artaxerxes I, brenin Persia |
Mam | Cosmartidene |
Priod | Parysatis |
Plant | Ostanes, Artaxerxes II, brenin Persia, Cyrus yr Ieuengaf, Amastris |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Roedd Ochus yn fab gordderch i Artaxerxes I. Ar farwolaeth Artaxerxes yn 424 CC, olynwyd ef gan ei unig fab gan ei frenhines, Xerxes II. Yn fuan wedyn, llofruddiwyd Xerxes II ar orchymyn ei hanner brawd, Sogdianus, a'i dilynodd ar yr orsedd. Chwe mis yn ddiweddarach, lladdwyd Sogdianus ar orchymyn Ochus, a daeth Ochus yn frenin dan yr enw Darius II yn 423 CC.
Er iddo deyrnasu am bron ugain mlynedd, ni wyddir llawer am ddigwyddiadau ei gyfnod. Crybwylla Xenophon wrthryfel gan y Mediaid yn 409 CC. Wedi i rym Athen wanychu yn ystod ei rhyfel yn erbyn Sparta, gwnaeth Darius gynghrair gyda Sparta yn ei herbyn, ac yn 408 CC, gyrroedd ei fab, Cyrus i Asia Leiaf i ymgyrchu. Olynwyd ef gan Artaxerxes II.
Rhagflaenydd: Sogdianus |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 423 CC – 404 CC |
Olynydd: Artaxerxes II |
Rhagflaenydd: Sogdianus |
Brenin yr Aifft 423 CC – 404 CC |
Olynydd: Amyrtaeus |