Artaxerxes I, brenin Persia
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 465 CC a 424 CC oedd Artaxerxes I (Hen Berseg: Artaxšacā, Perseg: اردشیر یکم (Ardeshir), Groeg: Ἀρταξέρξης; bu farw 424 CC).
Artaxerxes I, brenin Persia | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
5G CC ![]() |
Bu farw |
424 CC ![]() Susa ![]() |
Galwedigaeth |
brenin neu frenhines ![]() |
Swydd |
Uwch Frenin ![]() |
Tad |
Xerxes I ![]() |
Mam |
Amestris ![]() |
Priod |
Damaspia ![]() |
Plant |
Sogdianus, Xerxes II, Darius II, Parysatis, Arsites ![]() |
Llinach |
Brenhinllyn yr Achaemenid ![]() |
Roedd yn fab i Xerxes I, brenin Persia, ac olynodd ef ar yr orsedd yn 465 CC. Ceisiodd wanhau Athen trwy ariannu ei gelynion yng Ngwlad Groeg. Hyn a achosodd i'r Atheniaid symud trysorfa Cynghrair Delos o ynys Delos i'r Acropolis yn Athen. Yn 449 CC, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Athen, Argos a Persia.
Mae Artaxerxes yn ymddangos yn Llyfr Ezra yn y Beibl, lle mae'n rhoi llywodraeth ar yr Iddewon i Ezra. Gadawodd Ezra ddinas Babilon yn 457 CC a theithio i ddinas Jeriwsalem.
Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes II.
Rhagflaenydd : Xerxes I |
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Artaxerxes I |
Olynydd : Xerxes II |