David Charles
Emynydd o Gymru oedd David Charles (11 Hydref 1762 – 2 Medi 1834), Caerfyrddin, a ystyrir yn un o brif emynwyr Cymru. Ymhlith ei emynau enwocaf mae "O fryniau Caersalem ceir gweled" ac "O Iesu Mawr".
David Charles | |
---|---|
Ganwyd | 11 Hydref 1762 Llanfihangel Abercywyn |
Bu farw | 1834 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Tad | Rees Charles |
Mam | Jael Bowen |
Priod | Sarah Phillips |
Plant | Eliza Charles, David Charles II |
Fe'i ganwyd mewn ffermdy o'r enw Pant-dwfn, ger Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Rees a Jael Charles, ac yr oedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd iddo. Cafodd brentisiaeth fel triniwr llin a gwnaethurwyr rhaffau yng Nghaerfyrddin, ac am gyfnod bu draw ym Mryste yn derbyn hyfforddiant pellach. Trwy ddarllen Night Thoughts Edward Young a phregethau Ralph Erskine, fe'i argyhoeddwyd o'r gwirionedd, a dychwelodd i Gaerfyrddin i ddilyn ei alwedigaeth. Priododd Sarah, merch Samuel Levi Phillips o'r Hwlffordd ac ymunodd á'r Methodistiaid yn Heol y Dwr, ble'i gwnaethpwyd yn flaenor. Cyfranodd at waith y Methodistiaid yn y De, gan gynnwys sefydlu'r genhadaeth gartref a llunio'r Gyffes Ffydd. Aeth ati i bregethu o 1808 ymlaen, ac yn Ordeiniad Cyntaf y Methodistiaid, Llandeilo Fawr, yn 1811, fe'i hordeiniwyd yn weinidog. Nid yn annhebyg i'w frawd, fe'i hystyrid yn emynwr a diwynydd rhagorol, a chyhoeddodd ei fab-yng-nghyfraith, Hugh Hughes yr arlunydd, lawer o'i bregethau, tra daeth ei emynau i'r amlwg mewn casgliadau bychain eraill o'r cyfnod.
Ymadawodd á'i ysbryd ar 2 Medi 1834, a chladdwyd ei gorff yn mynwent Llangynnwr.
Llyfryddiaeth
golygu- Hugh Hughes, Deg a Thri Ugain o Bregethau, ynghyd ag Ychydig Emynau, Caerlleon, (1840).
- Hugh Hughes, Sermons etc. (cyfrol), London (1846)
- Hugh Hughes, Pregethau etc. Wrecsam (1860)
- David Charles, Detholion o Sgrifeniadau, Wrecsam (1879)
- Evan Dafydd, Anthem y Saint... gan Evan Dafydd, Caerfyrddin (1807)
- anhysbys, Hymnau ar Amrywiol Achosion, Caerfyrddin (1823)
- E. Wyn James, 'David Charles (1762–1834), Caerfyrddin: Diwinydd, Pregethwr, Emynydd', Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd)/Journal of the Historical Society of the Presbyterian Church of Wales, 36 (2012), 13–56. ISSN 0141-5255.