Roedd David George Crighton, FRS (15 Tachwedd 1942 - 12 Ebrill 2000) yn fathemategydd a ffisegydd Seisnig.[1]

David Crighton
Ganwyd15 Tachwedd 1942 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 2000 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethmathemategydd, academydd, ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Otto Laporte, Medal Carl Friedrich Gauss Edit this on Wikidata

Ganwyd Crighton yn Ysbyty Famolaeth Llandudno. Roedd yn fab hynaf George Wolfe Johnston Crighton (1899–1976),[2], gwas sifil yn y swyddfa tollau stamp, a'i wraig, Violet Grace, née Garrison. Roedd ei fam, wedi symud i Landudno oherwydd y bomio yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni fu ganddo ddiddordeb mewn mathemateg tan ei ddwy flynedd olaf yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Watford. Aeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt ym 1961 a dechreuodd ddarlithio ym Mholytechnig Woolwich (Prifysgol Greenwich bellach) ym 1964, wedi cwblhau gradd baglor yn unig.[3]

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cyfarfu â John Ffowcs Williams a dechreuodd weithio iddo yng Ngholeg Imperial Llundain, tra ar yr un pryd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth (a ddyfarnwyd ym 1969) yn yr un lle.

Yn y Coleg Imperial College, bu'n ymchwilio rheoli sŵn awyrennau cyflym. Roedd Concorde yn swnllyd iawn, ac nid oedd unrhyw un yn deall y broses cynhyrchu sŵn. Roedd arweinwyr diwydiannol yn cefnogi ymosodiad a arweinir yn fathemategol ar y broblem, a drefnwyd drwy Banel Sŵn Concorde yr oedd Crighton yn aelod ohono o 1965.[4]

Ym 1974, fe'i penodwyd yn gymrawd ymchwil yn yr Adran Beirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Fodd bynnag, ni dderbyniodd y swydd, yn hytrach derbyniodd y gadair mewn Mathemateg Gymhwysol ym Mhrifysgol Leeds, a ddaliodd hyd 1986.[5]

Yna dychwelodd i Gaergrawnt fel athro Mathemateg Gymhwysol yn olynydd i George Batchelor.

Yn ddiweddarach daeth yn Feistr yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt (1997-2000), ac roedd yn bennaeth yr adran Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Ddamcaniaethol (DAMTP), lle fu Stephen Hawking yn gweithio, rhwng 1991 a 2000.

Y tŷ allan i'w gwaith mathemategol, roedd Crighton yn hoff iawn o gerddoriaeth Richard Wagner, yn ogystal â cherddoriaeth ar gyfer y piano.[1]

Gwaith

golygu

Roedd diddordebau gwyddonol Crighton yn ymwneud yn bennaf â theori tonnau ac acwsteg aer, yn ogystal ag mewn rhai ardaloedd o fecaneg hylif. Cyhoeddodd dros 120 o bapurau ac un llyfr.

Yn ei bapur cyntaf, astudiodd Crighton y don sain sy'n gysylltiedig â llif cythryblus dros wyneb bylchog a ffurfiwyd gan ddau blân hyblyg lled-ddiddiwedd. Dros y blynyddoedd bu'n gweithio'n eang ym meysydd acwsteg, theori hafaliad a systemau lled- diabatig gan gynnwys solitonau. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar hafaliad cyffredinol Burgers a theori gwasgaru gwrthdro.

Cydnabuwyd y safon uchel yn ei waith trwy ddyfarnu iddo Fedal Rayleigh y Sefydliad Acwsteg, Medal Aur Per Bruel o Gymdeithas Peirianwyr Mecanyddol America a Gwobr Otto Laporte yr American Physical Society.[2]

Marwolaeth

golygu

Bu farw o ganser yn 57 mlwydd oed.[5]

Medal David Crighton

golygu

Sefydlodd y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau a Chymdeithas Fathemategol Llundain Fedal David Crighton yn 2002 er anrhydedd i Crighton. Dyfarnir y wobr bob tair blynedd gan gynghorau'r sefydliad a'r gymdeithas, gyda'r wobr gyntaf yn cael ei roi yn 2003. Dyfernir y fedal arian i fathemategydd sydd fel arfer yn byw yn y gymuned fathemategol a gynrychiolir gan y ddau sefydliad am wasanaethau i fathemateg ac i'r gymuned fathemategol. Mae deiliaid y fedal yn cynnwys Frank Kelly, Peter Neumann, Keith Moffatt, Christopher Zeeman, John Ball, a David Abrahams.[6]

Cyfeiriadau

golygu