John Ffowcs Williams

Roedd John "Shôn" Eirwyn Ffowcs-Williams, FREng FRSA FRAeS FInstP (25 Mai 1935 - 12 Rhagfyr 2020) yn Athro Peirianneg Rank Emeritus ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn gyn Meistr Coleg Emmanuel, Caergrawnt (1996-2002).[1] Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei gyfraniadau i aero acwsteg, yn arbennig am ei waith ar Concorde. Ynghyd ag un o'i fyfyrwyr, David Hawkings, cyflwynodd y dull integreiddio maes-eang mewn aerofacteg gyfrifiadurol yn seiliedig ar gyfatebiaeth acwstig Lighthill, a elwir yn gyfatebiaeth Ffowcs Williams-Hawkings.

John Ffowcs Williams
Ganwyd25 Mai 1935 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw12 Rhagfyr 2020 Edit this on Wikidata
Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethpeiriannydd, ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Fellow of the Royal Academy of Engineering, Cymrawd y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Sir Frank Whittle Medal Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Er iddo gael ei eni yn Nyffryn Conwy, cafodd Ffowcs-Williams ei addysgu yn Lloegr, yn Ysgol y Crynwyr Great Ayton a Choleg Technegol Derby (bellach yn rhan o Brifysgol Derby). Gwasanaethodd ar brentisiaeth peirianneg gyda Rolls-Royce cyn mynd i Brifysgol Southampton, ac roedd bob amser yn cynnal ymrwymiad cryf at ddod ag ymchwil academaidd i broblemau diwydiannol. Enillodd radd Baglor mewn Gwyddoniaeth a PhD o Brifysgol Southampton.

Gyrfa ac ymchwil

golygu

Cofrestrodd Topexpress Cyf, cwmni ymgynghori yng Nghaergrawnt sy'n arbenigo mewn gwyddoniaeth peirianneg, bu yn ymgynghorydd gweithredol i Rolls Royce ac yn gyfarwyddwr VSEL plc. Am 25 mlynedd arweiniodd yr isadran lle mae gwaith Mecaneg Hylif, Awyrenneg, Thermodynameg a Thurbopeirianneg Prifysgol Caergrawnt yn cael eu crynhoi.

Cafodd ei dderbyn i'w Gymrodoriaeth Athrawol ynn Ngholeg Emmanuel ym 1973; ef oedd yr athro a fu'n gwasanaethu hiraf yn y Brifysgol pan ymddeolodd o'i gadair yn 2002. Bu'n dysgu peirianneg yn y Coleg ond cyn dod yn Feistr, ei brif gyfraniad i'r Coleg oedd gwasanaethu ar y Corff Llywodraethol a'i bwyllgorau.[2] Ef oedd deiliad cyntaf Cadair Rank mewn peirianneg a sefydlwyd ym 1972 ym maes acwsteg, gan ddod i Gaergrawnt o Goleg Imperial Llundain, lle fun deiliad Gadair Rolls-Royce mewn Acwsteg Theoretig. Ei arbenigedd oedd sŵn a dirgryniad a achoswyd gan lif ansefydlog. Ei brif gamp oedd darbwyllo myfyrwyr ymchwil da iawn i fynd i'r afael â phroblemau pwysig ond diddorol a oedd yn amrywio o aero acwsteg wrth hedfan yn uwchsonig, i dawelu llwyfannau tanddwr. Fe wnaeth ei waith helpu i wneud gwrthsain yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli sŵn ac ar gyfer sefydlogi systemau aero mecanyddol ansefydlog.[2] Yn ogystal â'i ymchwil i broblemau mawr sŵn mewn peirianneg, bu hefyd yn defnyddio ei ymchwil i sŵn i geisio canfod rhyddhad rhag chwyrnu.[3]

Mae ei fyfyrwyr doethur yn cynnwys David Crighton, Steve Furber ac Ann Dowling.[4]

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Cafodd Ffowcs-Williams ei dyfarnu Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth (DSc) o Brifysgol Southampton a Meistr y Celfyddydau (MA) a Doethur mewn Gwyddoniaeth (ScD) o Brifysgol Caergrawnt.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi Peirianneg Frenhinol (FREng) ym 1988 [5]

Yn 1984 enillodd Fedal Rayleigh gan Sefydliad Acwsteg y DU.

Yn 1989 dyfarnwyd iddo'r Médaille Étrangère gan Gymdeithas Acwsteg Ffrainc (SFA).

Am ei gyfraniadau i sylfeini a chymwysiadau acwsteg awyr, sydd wedi galluogi lleihad dramatig yn sŵn awyrennau a llongau tanfor dyfarnwyd iddo Fedal Syr Frank Whittle gan yr Academi Peirianneg Frenhinol yn 2002.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (FRAeS)

Cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA)

Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Sefydliad Ffiseg (FinstP)

Mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru [6]

Marwolaeth

golygu

Ers ymddeol yn 2002 bu'n byw yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy. Bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd yn 85 mlwydd oed.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (2018, December 01). Ffowcs Williams, Prof. John Eirwyn, (born 25 May 1935), Rank Professor of Engineering, University of Cambridge, 1972–2002, now Emeritus; Master, Emmanuel College, Cambridge, 1996–2002 (Professorial Fellow, 1972–96; Life Fellow, 2002). WHO'S WHO & WHO WAS WHO Archifwyd 2019-07-14 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 14 Gorffennaf 2019
  2. 2.0 2.1 Emmanuel College fellows Professor Shôn Ffowcs-Williams Adalwyd 14 Gorffennaf 2019
  3. Camb Eng:Professor Shôn Ffowcs Williams Adalwyd 14 Gorffennaf 2019
  4. Mathematics Genealogy Project - John (Shôn) Eirwyn Ffowcs Williams Adalwyd 14 Gorffennaf 2019
  5. Prabook John Eirwyn Ffowcs Williams Adalwyd 14 Gorffennaf 2019
  6. Fellows and Honorary Fellows of The Learned Society of Wales Adalwyd 14 Gorffennaf 2019
  7. "Tribute page for Shôn FFOWCS WILLIAMS". funeral-notices.co.uk. Cyrchwyd 2021-01-08.