David Irving
Awdur o lyfrau hanesyddol o Loegr yw David John Cawdell Irving (ganwyd 24 Mawrth 1938). Mae'n honni bod yn "hanesydd" Ail Ryfel Byd. Ar adegau gwahanol, mae wedi ei wahardd o'r Almaen, Awstria, Canada, Awstralia, a Seland Newydd. Yn y 1970au roedd Irving yn cael ei dderbyn fel hanesydd awdurdodol ond yn dilyn yr achos hwn profwyd fod ei dystiolaeth yn wallus ac fe ddaethpwyd i ddeall fod ganddo agenda hiliol wrth ysgrifennu.[1]
David Irving | |
---|---|
Ganwyd | David John Cawdell Irving 24 Mawrth 1938 Brentwood |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | awdur ysgrifau, newyddiadurwr, llenor, cofiannydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Gwefan | http://www.fpp.co.uk/ |
Yn 1998, dechreuodd achos o enllib yn erbyn Deborah Lipstadt a'r cyhoeddwr Penguin am iddi ddweud yn ei llyfr bod Irving yn gwadu bodolaeth yr Holocost. Bu'r achos yn aflwyddiannus. Yn ystod yr achos, fe ddisgrifiodd Irving yr hanesydd a thyst Richard J. Evans, sydd o dras Gymreig, yn "little dumpy scowling Welshman"[2] a "that horrid little Welshman".[3]
Ar 20 Chwefror, 2006, dedfrydwyd Irving i dair blynedd o garchar yn Awstria am wadu bodolaeth yr Holocost, ond cafodd ei ryddhau ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "He is content to mix with neo-facists and appears to share many of their racist and anti-Semitic prejudices." - geiriau'r barnwr yn yr achos o enllib. Gweler Gwefan y Guardian.
- ↑ ian Buruma. "Blood Libel", The New Yorker (16 Ebrill 2001). Adalwyd ar 22 Chwefror 2018.
- ↑ Liam Hoare. "David Irving Sticks to His Script", Moment (8 Medi 2016). Adalwyd ar 22 Chwefror 2018.