David Johns
Roedd David Johns (1796 - 6 Awst 1843) yn un o'r cenhadon a deithiodd o Gymru i Fadagasgar ym mlynyddoedd cynnar y genhadaeth ar yr ynys honno.
David Johns | |
---|---|
Ganwyd | 1794 Llanina |
Bu farw | 6 Awst 1843 Madagascar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cenhadwr |
Ganwyd ef yn fab i John Jones, Llain, ger Llanina, sir Aberteifi yn 1796. Dywedir iddo addasu sillafiad ei gyfenw yn ddiweddarach i Johns i'w gwneud yn haws i wahaniaethu rhyngddo ef a'i gyd-genhadwr David Jones.[1] Bu'n aelod gyda'r Annibynwyr ym Mhenrhiwgaled ac aeth yn ddisgybl i Thomas Phillips yn Ysgol Neuaddlwyd. Aeth yn ei flaen wedi hynny i astudio yn y Drenewydd, ac yna i Gosport (fel y cenhadon David Jones a Thomas Bevan a aeth hefyd i Fadagasgar). Cafodd ei ordeinio i'r genhadaeth ar 16 Chwefror 1826, a theithiodd i Fadagasgar yn yr un flwyddyn. Bu David Jones, David Griffiths ac yntau yn gweithio ar y cyd, gan sefydlu dros 25 o ysgolion a oedd yn hyfforddi dros 2,000 o ddisgyblion.[2]
David Johns aeth â'r wasg argraffu gyntaf i Fadagasgar a thrwy hynny alluogi i destunau a chyfieithiadau Cristnogol gael eu hargraffu yn y Falagaseg am y tro cyntaf. Ef gyfieithodd waith John Bunyan Taith y Pererin i'r Falagaseg, bu'n gyfrifol am baratoi geiriadur Malagaseg-Saesneg, a bu'n olygydd ar nifer o weithiau eraill. Cyd-ysgrifennodd A Narrative of the Persecutions of the Christians in Madagascar gyda'r cenhadwr Joseph John Freeman, a chyhoeddwyd addasiad Cymraeg ohono hefyd.
Bu raid i Johns adael Madagasgar o ganlyniad i erledigaeth, ond llwyddodd i gadw cysylltiad â'r Cristnogion ar yr ynys. Dychwelodd i'r ynys yn 1839, a bu farw yno ar 6 Awst 1843.