David Jones (cenhadwr)

cenhadwr

Roedd David Jones (Gorffennaf 17961 Mai 1841) yn genhadwr Cristnogol arloesol o Gymru a aeth i Fadagasgar.[1] Roedd yn ieithydd dawnus, a chaiff ei gofio am sefydlu'r orgraff ar gyfer yr iaith Falagasi ac am gyfieithu'r Beibl i Falagasi - gwaith a gyflawnodd gyda'i gyd-genhadwr, David Griffiths.[2][3]

David Jones
Portread o David Jones yn 1833
GanwydGorffennaf 1796 Edit this on Wikidata
Pen-rhiw Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1841 Edit this on Wikidata
Mawrisiws Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd, cyfieithydd y Beibl, cenhadwr Edit this on Wikidata
PriodLouisa Darby Edit this on Wikidata

Bywyd a gwaith golygu

Cafodd David Jones ei eni ar fferm Penrhiw, ger Neuaddlwyd, Ceredigion. Astudiodd dan arweinyddiaeth Thomas Phillips yn Academi Neuaddlwyd, ac yn nes ymlaen yn Llanfyllin.

Pan yn 16 oed, cynigiodd ei hun i wasanaethu gyda Chymdeithas Genhadol Llundain (LMS) a chafodd ei anfon i hyfforddi yn Gosport, gyda'i gyfaill Thomas Bevan. Cafodd ei ordeinio yn Neuaddlwyd ar 20 a 21 Awst 1817. Priododd â Louisa Darby o Gosport.

Cafodd Jones a Bevan gyfarwyddyd gan yr LMS i wasanaethu ym Madagasgar. Ar 9 Chwefror 1818 hwyliodd y ddau ohonynt a'u gwragedd - Louisa Darby a Mary Bevan - o Gravesend ar long y Swallow. Bu iddynt lanio yn Tamatave o Mawrisiws ym mis Medi 1818.

Dysgodd yr iaith frodorol ac ymroi i addysgu a gwneud gwaith crefyddol ymhlith y boblogaeth leol, gan agor nifer o ysgolion. Ymgartrefodd yn Antananarivo yn 1820. Erbyn 1828, roedd 37 ysgol wedi'u sefydlu, a oedd yn cynnwys 44 o athrawon o 2,309 o fyfyrwyr. Ar y cyd â brenin y wlad, dyfeisiodd Jones system orgraff ar gyfer y Falagasi.

Ar y cyd â David Griffiths, cyfieithodd Jones y Beibl i'r Falagasi. 

Ar ôl dychwelyd i Mawritiws ar ôl i Gristnogaeth gael ei wahardd ym Madagasgar gan y Frenhines yn 1835, dioddefodd salwch a bu farw yno yn 1841.

Cyfeiriadau golygu

  1. Welsh Biography Online: David Jones
  2. "Dictionary of African Christian Biography: David Jones". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-17. Cyrchwyd 2018-12-01.
  3. Gerald H. Anderson, Biographical Dictionary of Christian Missions (Wm. B. Eerdmans Publishing, 1999), t.336