David Lloyd Jones, Arglwydd Lloyd-Jones

Barnwr ac ysgolhaig cyfreithiol Cymreig yw David Lloyd Jones, yr Arglwydd Lloyd-Jones, Kt, PC, FLSW (ganwyd 13 Ionawr 1952). Ar hyn o bryd mae'n ynad yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig a gwasanaethodd ynghynt fel aelod o Lys Apêl Cymru a Lloegr ac fel cadeirydd Comisiwn y Gyfraith.

Y Gwir Anrhydeddus
Arglwydd Lloyd-Jones
Ynad o Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig
Deiliad
Cychwyn y swydd
2 Hydref 2017
TeyrnElizabeth II
Rhagflaenwyd ganArglwydd Clarke oo Stone-cum-Ebony
Arglwydd Ustus Apêl
Mewn swydd
1 Hydref 2012 – 1 Hydref 2017
Manylion personol
Ganed (1952-01-13) 13 Ionawr 1952 (72 oed)
AddysgYsgol Ramadeg Bechgyn Pontypridd
Alma materColeg Downing, Caergrawnt

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Lloyd Jones ar 13 Ionawr 1952,[1] i William Elwyn Jones ac Annie Blodwen Jones (g. Lloyd-Jones).[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Pontypridd.[3] Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Downing, Caergrawnt: graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf Baglor yn y Celfyddydau (BA), a ddyrchafwyd yn ddiweddarach i radd Meistr yn y Celfyddydau (MA Cantab), a gradd dosbarth cyntaf Baglor Cyfreithiau (LLB).[4]

 
Lloyd-Jones mewn gorymdaith yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 2013

Roedd Lloyd Jones yn Gymrawd Coleg Downing, Caergrawnt rhwng 1975 a 1991.[3] Rhwng 1999 a 2005, roedd yn athro gwadd yn City University, Llundain.[5] Mae wedi ysgrifennu erthyglau sydd wedi'u cyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion academaidd sy'n arbenigo yn y gyfraith.[2]

Gyrfa gyfreithiol golygu

Galwyd Lloyd Jones i'r bar ym 1975 (Middle Temple). Daeth yn gofnodydd ym 1994 a gwasanaethodd fel Cwnsler y Goron iau (Cyfraith Gwlad) rhwng 1997 a 1999.[2] Daeth Lloyd Jones yn Gwnsler y Frenhines ym 1999. Yn 2009, datgelwyd iddo gael ei dalu mwy na £1   miliwn am ei ran yn Ymchwiliad y Sul Gwaedlyd.[6]

Ar 3 Hydref 2005, fe'i penodwyd yn farnwr Uchel Lys, ac fe'i neilltuwyd i Adran Mainc y Frenhines. Gwasanaethodd fel barnwr llywyddol ar Gylchdaith Cymru a Chaer a chadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg rhwng 2008 a 2011.[3] Ar 1 Hydref 2012, penodwyd Lloyd Jones yn Arglwydd Ustus Apêl, ac fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar 7 Tachwedd 2012.[7]

Cyngor Cyfraith Cymru golygu

Bu i'r Arglwydd Lloyd-Jones awgrymu wrth Lywodraeth Cymru yr angen i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru. Daeth hwnnw i fodolaeth gan chwarae rhan hefyd yn natblygiad Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru yn 2019. Penodwyd yn Gadeirydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinnol Cymru ym mis Hydref 2021.[8]

Anrhydeddau golygu

Yn 2005, ar ôl cael ei benodi'n farnwr Uchel Lys, derbyniodd yr apwyntiad arferol o farchog gwyryf. Ar 14 Chwefror 2006, cafodd ei urddo'n farchog ym Mhalas Buckingham gan y Frenhines Elizabeth II.[9]

Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth yn 2012.[4] Dyfarnwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Abertawe yn 2014.[10] Yn 2016, cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW).[5][11]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Senior Judiciary". Judiciary of England and Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 "JONES, Rt Hon. Sir David Lloyd". Who's Who 2015. A & C Black. Hydref 2014. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Mr. Justice Lloyd Jones". Boundary Commission for Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2012.
  4. 4.0 4.1 "High Court Fellow". News. University of Aberystwyth. 13 Goffennaf 2012. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015. Check date values in: |date= (help)
  5. 5.0 5.1 'JONES, Rt Hon. Sir David Lloyd', Who's Who 2017, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2017; online edn, Oxford University Press, 2016; online edn, Tachwedd 2016 adalwyd 22 Gorffennaf 2017
  6. Swaine, Jon (5 Chwefror 2009). "Bloody Sunday inquiry pays 14 lawyers more than £1m". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
  7. "Orders for 7 November 2012" (PDF). Privy Council Office.
  8. "Penodi'r Arglwydd Lloyd-Jones yn Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru". Llywodraeth Cymru. 8 Hydref 2021.
  9. "Honours and Awards". The London Gazette (57922). 10 March 2006. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
  10. "The Rt. Hon. Sir David Lloyd Jones". Honoray Awards. Swansea University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2015. Cyrchwyd 13 Ionawr 2015.
  11. "The Right Honourable Sir David Lloyd Jones". Learned Society of Wales. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2017.