Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru
Sefydlwyd Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r modd y gweithredir y system gyfiawnder yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 24 Hydref 2019.[1]
Cymru |
![]() Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Cyd-destunGolygu
Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn sefydlu Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i fwrw golwg ar y modd y mae’r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar ei chyfer.[2] Daeth y Comisiwn o dan arweinyddiaeth wleidyddol Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles A.C.[3]
Dechreuodd y Comisiwn ar ei waith ym mis Rhagfyr 2017, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Lloegr a Chymru.
Edrychodd y Comisiwn ar:
- gyfiawnder troseddol a phlismona; cyfiawnder sifil, masnachol, teuluol a gweinyddol; mynediad at gyfiawnder; addysg a hyfforddiant yn y gyfraith; proffesiynau ac economi’r gyfraith; a’r awdurdodaeth gyfreithiol. Rhoddod y Comisiwn alwad am dystiolaeth ar 27 Chwefror 2018 gan gynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru i’w helpu i lywio ei waith.
Cylch gorchwylGolygu
Adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, gyda'r nod o:[4]
- Hyrwyddo gwell canlyniadau o ran mynediad at gyfiawnder, gostwng nifer yr achosion o droseddu a hybu'r broses adsefydlu
- Sicrhau bod y trefniadau awdurdodaethol ac addysg gyfreithiol yn adlewyrchu ac yn edrych ar swyddogaeth cyfiawnder yn llywodraethiant a ffyniant Cymru yn ogystal â materion neilltuol sy'n codi yng Nghymru
- hyrwyddo cadernid a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.
Derbyniodd y Comisiwn tystiolaeth ac ymatebion gan weithurwyr cyfreithiol yng Nghymru, cyrff ac unigolion.[5]
Cyngor Cyfraith CymruGolygu
Fel rhan o'r Comisiwn, sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru yn Hydref 2017 er mwyn hyrwyddo addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru.[6]
Daeth cynnig y Comisiwn ar gyfer sefydlu Cyngor o'r fath yn dilyn yr awgrym a wnaed gan yr Arglwydd Lloyd-Jones i sefydlu corff i hyrwyddo astudiaeth o gyfraith Cymru. Mewn araith yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith yn Abertawe yn 2017, dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones fod angen corff o'r fath er mwyn helpu i gydlynu gwaith y sefydliadau academaidd a sefydliadau eraill wrth i gyfraith Cymru barhau i ddatblygu a rhannu arbenigedd er mwyn helpu i osgoi 'ailddyfeisio'r olwyn' pan gyflwynir cyfraith newydd.[6]
Cyhoeddi Adroddiad y ComisiwnGolygu
Cyhoeddiad adroddiad y Comisiwn ar 24 Hydref 2019.[7]
Cafwyd sawl argymhelliad.[8][9]
Ymysg yr agymhelliad gafodd fwyaf o sylw oedd yr argymhelliad i:
- Ddatganoli pwerau cyfiawnder i Gymru[10]
- Creu "cyfreithiau Cymru" sydd ar wahân i gyfreithiau Lloegr a Chymru;
- Adran gyfiawnder newydd yn Llywodraeth Cymru i gael ei harwain gan weinidog o'r cabinet;
- Sefydlu uchel lys a llys apêl ei hun a barnwr o Gymru yn rhan o'r Goruchaf Lys;
- Plismona a pholisïau atal troseddu gan gynnwys materion iechyd meddwl a chamdriniaeth cyffuriau i'w datganoli;
- Dylai holl gyrff cyfiawnder fod yn rhan o Fesur yr Iaith Gymraeg 2011 a gwasanaethau gan grwneriaid ar gael yn Gymraeg;
- Codi'r oedran cyfrifoldeb cyfreithiol o 10 i o leiaf 12 oed yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban.
Dolenni allanolGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ llyw.cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020
- ↑ https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-02/comisiwn-cyfiawnder.pdf
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/46420096
- ↑ https://llyw.cymru/comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru/cylch-gorchwyl
- ↑ https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-08/tystiolaeth-atodol-llywodraeth-cymru-ir-comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru-cyfiawnder-teuluol.pdf
- ↑ 6.0 6.1 https://llyw.cymru/cynlluniau-am-cyngor-cyfraith-cymru
- ↑ https://llyw.cymru/adroddiad-comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru
- ↑ https://seneddymchwil.blog/2019/10/21/sicrhau-gweinyddiaeth-deg-a-chyfreithlon-yng-nghymru-rol-cyfiawnder-gweinyddol/
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/556310-comisiwn-galw-ddatganoli-pwerau-cyfiawnder-gymru
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50151785