Cyngor Cyfraith Cymru
Mae Cyngor Cyfraith Cymru (Saesneg: Law Council of Wales) yn sefydliad yng Nghymru sy'n hyrwyddo addysg gyfreithiol, ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru, darparu addysgu'r gyfraith yn Gymraeg ac i gynorthwyo myfyrwyr mewn hyfforddiant cyfreithiol.[1]
Dechrau/Sefydlu | 2021 |
---|---|
Lleoliad | Cymru |
Hanes
golyguSefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru er mwyn hybu addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gyfreithiol yng Nghyfraith Cymru. Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd a chynaliadwyedd y gyfraith yng Nghymru.[2] Cynhaliwyd cyfarfod gyntaf Pwyllgor Gwaith y Cyngor ar 2 Tachwedd 2021.[2]
Cadarnhawyd penodiad Arglwydd Lloyd-Jones gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinnol Cymru ym mis Hydref 2021.[3]
Comisiwn Thomas
golyguSefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru yn dilyn argymhellion gan y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru annibynnol yng Nghymru (Comisiwn Thomas) yn 2019 a nododd weledigaeth y system gyfreithiol yng Nghymru. Cadeiriwyd y comisiwn gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.[2] Cyflwynodd y Comisiwn adroddiad pwysig, Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru, ym mis Hydref 2019 gyda set gynhwysfawr o argymhellion yn gosod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru. Mae Cyngor y Gyfraith yn fforwm lle gall cymuned gyfreithiol gyfan Cymru gytuno ar flaenoriaethau, sefydlu gweithgorau, a chydweithio â’i gilydd – a gyda Llywodraeth Cymru – i gefnogi twf y sector cyfreithiol a hybu buddiannau’r gyfraith.[4]
Aelodau'r pwyllgor
golygu- Yr Arglwydd Lloyd-Jones, Goruchaf Lys y DU (Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru)
- Yr Athro Emyr Lewis, Prifysgol Aberystwyth
- Alison Perry, Prifysgol Abertawe
- Dr Hephzibah Egede, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Mark Davies, Cyfreithwyr Goldstones a Chadeirydd Pwyllgor Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru
- Dr Nerys Llewelyn-Jones, Agri Advisor
- David Elias CF, Siambrau 9 Plas y Parc
- Jonathan Elystan Rees CF, Apex Chambers
- Cynrychiolydd mewnol gydag un lle yn cael ei rannu am yn ail: Dan Caunt, Admiral Group PLC, a Daniela Mahapatra, Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC
- Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
- Rhannodd cynrychiolydd Barnwr Llywyddol Cymru fel arall rhwng Mr Ustus Simon Picken a Mrs Ustus Nerys Jefford
- Jenny Hopkins, Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Yr Arglwydd Ustus Green, Comisiwn y Gyfraith
- Mr Ustus Martin Griffiths, Coleg Barnwrol
- Fran Targett, Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru[2]
Dolenni allanol
golygu- Cyngor Cyfraith Cymru Gwefan Swyddogol
- Cyngor Cyfraith Cymru Hafan ar wefan Llywodraeth Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Law Council of Wales". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-29.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Law Council of Wales Executive Committee members announced". Legal News (yn Saesneg). 2021-10-28. Cyrchwyd 2022-04-29.
- ↑ "Penodi'r Arglwydd Lloyd-Jones yn Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru". Llywodraeth Cymru. 8 Hydref 2021.
- ↑ "The Law Council of Wales". Gwefan Cyngor Cyfraith Cymru. Cyrchwyd 21 Hydref 2022.