Mae Dawns Forys yn fath o ddawns werin Seisnig.

Dawns forys
Enghraifft o'r canlynolffurf gerddorol, math o ddawns Edit this on Wikidata
Mathdawns werin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dawnswyr Earlsdon yng Gŵyl Werin Whitby
Dawnswyr Cadi Ha yng Nghaerwys
Plough Stots Goathland
Dawnswyr morys yn California

Tarddiad y gair ‘Morys’

golygu

Mae’n debyg bod y gair yn tarddu o’r Ffrangeg morisque. Daeth morisque yn moricsh yn Fflemineg ac wedyn moryssh yn Saesneg.[1]

Mae cofnod o berfformiad gan ddawnswyr morys yn Llundain ar 19 Mai 1448, a dawnsiodd Will Kemp o Lundain i Norwich tua 1600.

Daeth Morys yn llai boblogaidd yn ystod y 18g, nd goroesodd y draddodiad. Roedd dawns morys yn rhan o ddathliad Jubili aur Brenhines Victoria ym 1887, ac mae cofnod bod dawnswyr o Chwarel Headington wedi dawnsio yn ystod darlith gan Percy Manning yng Nghyfnewidfa Ŷd Rhydychen ym Mawrth 1899.[1]

Gwelodd Cecil Sharp ddawns forys am y tro cyntaf ym 1899, a chasgliodd o’r gerddoriaeth. Ffurfiodd yr English Folk Dance and Song Society ym 1911, y daeth yn yr English Folk Dance and Song Society ym 1932.

Cyhoeddodd Sharp rhan cyntaf y Llyfr Morys ym 1907, a’r ail ran ym 1909. Cyhoeddwyd Llyfr Morys Esprans gan Mary Neal ym 1910. Defnyddiwyd y llyfrau mewn ysgolion a mewn clybiau dawns werin.

Ffurfiwyd mwy o glybiau morys a chleddf yn y 20au a 30au. Ffurfiwyd y Cylch Morys ym 1934 gan Ddawnswyr Caergrawnt, Dwyrain Surrey, Greensleeves, Letchworth, Prifysgol Rhydychen a Thaxted. Ffurfiwyd mwyafrif y clybiau yn ystod yr 80 mlynedd ddiwethaf. Mae gan pob clwb sgweier, sydd yn drefnydd, blaenwr, sydd yn dysgu’r dawnsiau, a bagman, sydd yn drysorydd.

Mae sawl math o ddawns forys, yn cynnwys defnydd o ffyn, cadachau a chleddyfau yn ogystal â dramau mwmio a defodau gwerinol, yn cynnwys Dawns forys Gotswold, Dawns forys Molly, Dawns forys cyffiniau Cymru, Dawns forys clocsen Gogledd-orllewinol, Dawns forys cleddyf hir a Dawns Rapper

Cynhelir cyfarfod blynyddol y Cylch Morys yn Thaxted, Essex.

Y calendr

golygu

Yn draddodiadol, perfformwyd dawns forys ar amserau penodol y flwyddyn; yng nghanolbarth Lloegr, y Sulgwyn; Yn y gogledd-orllewin, yr Haf; cleddyf hir a rapper, y Nadolig. Erbyn hyn perfformir dawns forys yng ngwyliau werin trwy’r flwyddyn. Mae sawl math o ddawns forys sydd yn unigryw i un lleoliad penodol, megis Gŵyl Cadi Ha yn Nhrefynnon, Dawnswyr Cnau Coco Bacup, Dawnswyr Corn Abbots Bromley a Dawns Obby Oss Padstow.[1]

Dramau mumming

golygu

Dramau traddodiadol gyda enwau amrywiol o ardal ardal, megis souling, pace-egging, tipteers a plough jacks. Perfformir y drama tu mewn neu tu allan tafarndai, heb lwyfan. Casglwyd eu geiriau traddodiadol erbyn 1914. Ychwanegir darnau newydd i adlewyrchu digwyddiadau cyfoes. Mae cymeriadau sydd yn gyffredin i’r dramau i gyd; Sant Siors, marchog Twrcaidd a meddyg. Fel arfer, lleddir Sant Siors gan y marchog Twrcaidd ac wedyn atgyfodir gan y meddyg.[1]

 
Dawnswyr morys yng Gŵyl Werin Genedlaethol Awstralia

Cyfeiriadau

golygu
Chwiliwch am dawns forys
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddawns. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.