Ffurfiwyd Dawnswyr Delyn yn yr Wyddgrug ym 1986. Ers hynny, maen nhw wedi dawnsio yn Nantes, Galway, Amsterdam, Briec, yr NEC ac Arena Ryngwladol Birmingham. Cynhelir twmpathau'n achlysurol yn Neuadd Eglwys y Santes Fair yn y dref, lle mae'r dawnswyr yn ymarfer pob nos Lun. Maen nhw'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac wedi ymddangos ar S4C o dro i dro. Mae'r dawnswyr hefyd yn cefnogi digwyddiadau lleol, megis Gŵyl Tegeingl, Gŵyl Cadi Ha ac orymdaith flynyddol y Fari Lwyd o gwmpas y fro.

Dawnswyr Delyn
Enghraifft o'r canlynolgrŵp dawnsio gwerin Edit this on Wikidata
Dawnswyr Delyn yng Ngerddi Erddig, Wrecsam.

Dolen allanol

golygu