Dead Man's Ransom
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw Dead Man's Ransom ("Pridwerth y Marw") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1984. Dyma'r nawfed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter ![]() |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers ![]() |
Gwlad | Cymru ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1984 ![]() |
Genre | ffuglen dirgelwch, ffuglen drosedd ![]() |
Cyfres | The Cadfael Chronicles ![]() |
Rhagflaenwyd gan | The Devil's Novice ![]() |
Olynwyd gan | The Pilgrim of Hate ![]() |
Cymeriadau | Cadfael ![]() |
Lleoliad y gwaith | Amwythig ![]() |
Ym mis Chwefror 1141 anfonir Cadfael i Gymru i drafod telerau rhyddhau Uchel Siryf Swydd Amwythig, Gilbert Prestcote, sydd wedi ei ddal gan gefnogwyr Cymreig yr Empress Ymerodres Matilda. Mae cytundeb i gyfnewid carcharorion a dygir Prescote, wedi ei glwyfo, yn ôl i Amwythig, ond fe'i canfyddir wedi ei lofruddio yn clafdy Abaty Amwythig. Yn y pen draw, mae Cadfael yn datgelu'r dirgelwch.
Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1995.