Decsamethason
Mae decsamethason yn fath o feddyginiaeth corticosteroid.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₂H₂₉FO₅. Mae decsamethason yn gynhwysyn actif yn Baycadron, Ozurdex a Neofordex.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | (11beta)-9-fluoro-11,17,21-trihydroxy-16-methylpregna-1,4-diene-3,20-dione |
Màs | 392.199902248 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₂h₂₉fo₅ |
Enw WHO | Dexamethasone |
Clefydau i'w trin | Canser, chwydu, afiechyd addison, clefyd hunanimíwn, edema ar yr ymennydd, llid, clefyd y system hematopoietig, sioc septig, gorsensitifrwydd, amyloidosis, mantle cell lymphoma, brech edema systaidd, retinal vein occlusion, lewcemia lymffosytig cronig, precursor t-cell acute lymphoblastic leukemia, macular retinal edema, uveitis, lymffoma ddi-hodgkin, lymffoma, diffuse large b-cell lymphoma, covid-19 |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | response to dexamethasone, cellular response to dexamethasone stimulus |
Yn cynnwys | fflworin, carbon, ocsigen, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
- canser
- chwydu
- clefyd Addison
- clefyd hunanimíwn
- edema ar yr ymennydd
- llid
- clefyd y system hematopoietig
- sioc septig
- gorsensitifrwydd
- brech edema systaidd
- lewcemia lymffosytig cronig
- lymffoma ddi-Hodgkin
- lymffoma
- COVID-19
COVID-19
golyguAdroddodd Peter Horby, Athro Clefydau Heintus sy’n Dod i’r Amlwg yn Adran Feddygaeth Nuffield, Prifysgol Rhydychen ar 16 Mehefin, 2020 canlyniadau treial rhagarweiniol yn nodi mai Decsamethason yw’r cyffur cyntaf i gael ei ddangos i wella goroesiad pobl efo Covid-19. Nododd astudiaeth Adferiad Prifysgol Rhydychen o gyffuriau amrywiol a allai helpu yn erbyn Cofid-19 ei fod yn gwella gobaith am oroesiad y rhai a oedd â Cofid-19 ac yn derbyn ocsigen neu ar beiriant anadlu. I'r rhai sy'n derbyn ocsigen mae'n torri marwolaethau tua un rhan o bump. I'r rhai ar beiriannau anadlu, arbedodd fywyd tua thraean. Nid yw'n cael unrhyw effaith ar p'un a yw rhywun yn cael y firws, nac ar ddifrifoldeb yr effeithiau os yw'r firws yn cael ei ddal. Nid yw ychwaith yn helpu'r rhai y mae'r firws yn effeithio'n ysgafn arnynt yn unig. Ymddengys ei fod yn gweithio trwy drin symptomau penodol yn hytrach na'r firws ei hun. [2]
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Decsamethason, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
- fluormethylprednisolone
- desametasone
- Decadron®
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pubchem. "Decsamethason". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ BBC News online 16 Mehefin 2020 - Coronavirus: Dexamethasone proves first life-saving drug adalwyd 17 Mehefin 2020
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |