Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Deddf a basiwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a arweiniwyd drwy'r senedd gan Lywodraeth Lafur y cyfnod. Roedd hyn yn dilyn Refferendwm datganoli i Gymru, 1997 pan welwyd y mwyafrif o blaid datganoli.
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1998 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Pwerau
golyguTrosglwyddwyd y rhan fwyaf o bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a'i swyddfa yn Llundain i'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Trosglwyddwyd hefyd y canlynol i fod yn atebol i'r Cynulliad:
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- ELWA (Addysg ac Addysgu; 2000 to 2006)
- Cyngor Adeiladau Hynafol Cymru (daeth i ben yn 2006 a throsglwyddwyd ei bwerau a'i holl eiddo i'r Cynulliad)
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru (daeth i ben 31 Mawrth 2013, pan drosglwyddwyd ei bwerau i Gyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Llyfrgelloedd Cymru (1964 - 1 Ebrill 2004; Trosglwyddwyd i'r Cynulliad)[1]
- Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) (Cafodd ei uno ag adran addysg a sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006)
- Y Bwrdd Nyrsio, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd (Welsh National Board for Nursing, Midwifery and Health Visiting)
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (sefydlwyd Mai 1992)
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Cymru
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru (sefydlwyd yn 1972)
- Comisiwn Coedwigaeth
Deddfwyd hefyd fod y cyrff canlynol yn dod i ben:
- Bwrdd Datblygu Cymru Wledig
- Awdurdod Tir Cymru (un o asiantau Llywodraeth y DU)
- Corff Gweddilliol Cymru (Residuary Body for Wales)
- Tai Cymru (housing for Wales)
Sefydlwyd y rôl canlynol:
- Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n archwilio dros £20 biliwn o arian y trethdalwyr bob blwyddyn.
Gweler hefyd
golygu- Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a ddiwygiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan alluogi'r drefn o roi mwy o bŵerau i'r Cynulliad yn haws.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Ddeddf a ddaeth a'r Cyngor i ben; adalwyd 27 Awst 2017.