Defnyddiwr:Adda'r Yw/Amgueddfa
- Eglurhad
Pwrpas y dudalen yma yw cofnod answyddogol o hanes y Wicipedia Cymraeg.[troednodyn 1] Mae Wicipedia bellach bron yn 10 mlwydd oed(!). Er ein bod wastad wedi bod yn gymuned fechan, mae nifer ohonom wedi mynd a dod, dwad ac aros, gadael a diflannu.
Mae croeso i unrhywun olygu'r dudalen hon i ychwanegu neu gywiro gwybodaeth o ddiddordeb. Mae hefyd croeso i unrhyw ddefnyddiwr ddileu unrhyw wybodaeth sydd yn berthnasol iddyn nhw os nad ydynt eisiau'r wybodaeth honno yma.
Llinell amser
golygu- 2003
- 12 Gorffennaf: y fersiwn hynaf o'r dudalen hafan sydd yn y celc: Hafan
- Sefydlu'r Wicipedia
- 2005
- Defnyddiwr:Willy On Welsh Wheels! Fandal enwocaf yn hanes Wikipedia yn dod draw i'r Wici Cymraeg i fandaleiddio. Yn ôl Urban Dictionary: "Wikipedia's most prolific vandal [...] infamous vandal that vandalizes wikipedia by moving pages to the original title but with the addition of the phrase "on wheels"." Gweler hefyd: Bambifan101, oedd yn fandaleiddio erthyglau ar ffilmiau Disney.
- 2006
- 12 Chwefror: Adam yn creu The Simpsons, y 4,000fed erthygl.
- 2007
- 23 Mehefin: Porius1 yn creu Celtiberiaid, y 10,000fed erthygl.
- 2008
- 21 Mai: Cafwyd trafodaeth ar y Wicipedia Saesneg i ddileu'r erthygl Welsh Wikipedia. Canlyniad: no consensus to delete, default to keep.
- 20 Tachwedd: Thaf yn creu Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984, y 20,000fed erthygl.
- 2009
- 28 Hydref: Thaf yn creu Conservatoire de Paris, y 25,000fed erthygl.
- 2010
- 13 Rhagfyr: Llywelyn2000 yn creu Carnedd gron Esgair Irfon, y 30,000fed erthygl.
- 2011: Fandal anhygoel yn taro Wicipedia: Trôl Rhydychen.
- 2012: Blwyddyn fawr i Wicipedia. Cyflwynwyd Cynllun Datblygu gan Llywelyn. Golygathon yng Nghaerdydd. Stondin yn yr Eisteddfod.
- 22 Ionawr: Adam yn creu Goleuadau traffig, y 35,000fed erthygl.
- 2013: Dathlu pen-blwydd Wicipedia'n 10 oed.
- 19 Gorffennaf: Adam yn creu Adam, Esgob Llanelwy, y 50,000fed erthygl.
Cerrig milltir
golygu- The Simpsons – 4,000fed erthygl (a grëwyd gan fi)
- Celtiberiaid – 10,000fed erthygl
- Polydore Vergil – 15,000fed erthygl (ffyn.)
- Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 – 20,000fed erthygl
- Conservatoire de Paris – 25,000fed erthygl
- Carnedd gron Esgair Irfon – 30,000fed erthygl
- Goleuadau traffig – 35,000fed erthygl (a grëwyd gan fi)
- Rowton, Swydd Amwythig – 40,000fed erthygl
- Adam, Esgob Llanelwy – 50,000fed erthygl
- 30au CC – 100,000fed erthygl
- Diwydiant llechi Cymru – erthygl ddethol gyntaf
Mur y Colledig
golygu- Anatiomaros, gweinyddwr, dros 65,000 o olygiadau, cafodd seibiant hir o 26/01/11 i 13/05/13, a chyfrannodd am y tro olaf 02/06/15
- Porius1, gweinyddwr, dros 37,000 o olygiadau, heb gyfrannu ers 04/02/11
- Cyfranwyr eraill o fri sydd wedi diflannu: Tomos ANTIGUA Tomos, Gareth Wyn
- Y cyfranwyr dechreuol a osododd sail i Wicipedia: Okapi, Marnanel, ac Arwel Parry. Sylw i archaeolegwyr: mae eu golygiadau i'w gweld wrth dreiddio'n ddwfn i hanesion tudalennau!
Manion
golygu- Y Wicipedia Cymraeg yw un o'r ychydig sydd ganddi ddolen ryngwici ar hafan y Wicipedia Almaeneg Pensylfania, oherwydd hanes y Gymraeg ym Mhensylfania
Troednodion
golygu- ↑ Am gofnod swyddogol, gwyddoniadurol, gweler yr erthygl ar y Wicipedia Cymraeg.