Defnyddiwr:Els Pam Pels/Pwll Tywod
Els Pam Pels/Pwll Tywod | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cyfansoddodd Antonín Dvořák ei nawfed symffoni yn 1893, a dyma oedd y symffoni olaf iddo gyfansoddi. Adnabyddir y symffoni hefyd fel: Symffoni'r Byd Newydd neu O'r Byd Newydd, cyfansoddwyd pan oedd yn gyfarwyddwr Conservatoire Cerdd Genedlaethol America yn Ninas Efrog Newydd. Mae'r symffoni yn y cywair E leiaf. Roedd y perfformiad cyntaf yn Ninas Efrog Newydd ar 16 Rhagfyr 1893.[1] Aeth tâp o'r symffoni yma gyda Neil Armstrong yn ystod Apollo 11 yn 1969.
Offeryniaeth golygu
Mae'r symffoni wedi'i sgorio ar gyfer y gerddorfa ganlynol:
- 2 ffliwt (un picolo dwbl)
- 2 obo (un Cor anglais dwbl)
- 2 clarinet yn B♭ ac A
- 2 Basŵn
- 4 Corn ffrengig yn E, C ac F
- 2 Utgorn yn E, C ac E♭
- 3 Trombôn: alto, tenor, bass
- Tiwba (ail symudiad yn unig)
- Timpani
- Triongl (trydydd symudiad yn unig)
- Symbolau (pedwaredd symudiad yn unig)
- Offerynnau Llinynnol
Form golygu
Mae perfformiad nodweddiadol yn para tua 40 munud, mae yna 4 symudiad.
I. Adagio – Allegro molto golygu
II. Largo golygu
Mae'r Cor anglais yn chwarae'r alaw enwog gyda llinynnau wedi ei mutio o dan.
III. Molto vivace golygu
IV. Allegro con fuoco golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Symphony No. 9 in E minor, Op. 95, B178 "From the New World"". www.antonin-dvorak.cz. Cyrchwyd 2024-03-26.