Defnyddiwr:Jason.nlw/Pwll Tywod
Rhestr Wicidata:
Enw | Math | Uchder uwch na lefel y môr | Delwedd |
---|---|---|---|
Yr Wyddfa | mynydd copa |
1085 | |
Y Grib Goch | mynydd copa |
923 | |
Garnedd Ugain | mynydd copa |
1065 | |
Glyder Fawr | mynydd copa |
1000.9 | |
Y Lliwedd | mynydd copa |
898 | |
Tryfan | mynydd copa |
917 | |
Castell y Gwynt | copa bryn |
972 | |
Gallt yr Wenallt | copa bryn |
619 | |
Gallt yr Ogof | mynydd copa |
763 | |
Glyder Fach | mynydd copa |
994 | |
Llechog | copa bryn |
720 | |
Lliwedd Bach | copa bryn |
818 | |
Y Foel Goch | mynydd copa |
805 | |
Y Lliwedd (copa dwyreiniol) | copa bryn |
893 | |
Y Garn (Glyderau) | mynydd copa |
947 | |
Craig Fach | copa bryn |
608.75 | |
Carnedd y Cribau | copa bryn |
591 | |
Bryn Tryfan | copa bryn |
830.8 | |
Moel Berfedd | bryn copa |
482 | |
Cerrig Cochion | bryn copa |
550 | |
Clogwyn Bwlch-y-maen | bryn copa |
548 | |
Clogwyn Pen Llechen | bryn copa |
421 |
Fformat yr erthyglau
golyguMae erthyglau Wicipedia yn erthyglau gwyddoniadurol sydd wedi'u chreu ar gyfer gynulleidfa eang, nid plant yn unig. Yn hytrach na mynd ar drywydd creu Wicipedia ar wahân i blant, a fyddai’n ymestyn y gymuned olygu yn rhy denau, y nod yw creu cynnwys sydd wedi’i anelu at bob oedran. Bydd y cynnwys yn cael ei strwythuro mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddisgyblion iau gael gafael ar wybodaeth allweddol, gan gynnwys gwybodaeth fanylach ar gyfer disgyblion hŷn ac oedolion pe byddent ei eisiau.
Cynnwys
golyguBydd erthyglau yn ail defnyddio testun sy'n bodoli yn barod lle bynnag y bo modd. Byddwn yn gweithio gyda CBAC, HWB ac adran addysg LLGC i nodi ac addasu'r cynnwys hwn. Gellir cyfieithu ac addasu cynnwys o'r Saesneg hefyd.
Bydd dyfyniadau Cymraeg a chysylltiadau i adnoddau dysgu pellach fel CBAC a BBC Bitesize yn cael eu cynnwys lle bynnag y bo modd, ynghyd â rhestrau darllen a gymeradwywyd gan CBAC.
Mynediad
golyguYn gyntaf, dyle fod modd darganfod erthyglau gyda'u henwau Saesneg a Chymraeg. Er enghraifft, dylai defnyddwyr allu chwilio am ‘Henry I’ neu ‘Harri I’, ‘Industrial Revolution’ neu ‘Y Chwyldro Diwydiannol’ i gallu darganfod yr erthygl Gymraeg. Bydd hyn yn gwneud cynnwys yn haws i ddarganfod ac yn rhoi hyder i ddysgwyr neu'r rheini sydd â sgiliau iaith is i ddefnyddio'r cynnwys Cymraeg. Gall darparu ailgyfeiriadau o deitlau Saesneg hefyd wneud y cynnwys yn fwy gweladwy trwy beiriannau chwilio.
Ar gyfer pynciau eang fel y Rhyfel Byd Cyntaf neu'r Tuduriaid, byddwn yn creu erthyglau cryno sy'n amlinellu'r pwnc cyfan, gan gynnwys ffigurau, digwyddiadau ac ystyriaethau allweddol, gyda dolennu i erthyglau mwy manwl ar gyfer pobl neu gysyniadau penodol. Y nod yma fydd helpu disgyblion i ddeall pwnc ar lefel uchel a rhoi cyd-destun i'r bobl, y lleoedd a'r digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r pwnc hwnnw. Gall yr erthyglau hyn weithredu fel pwynt mynediad at gynnwys mwy manwl.