Y Grib Goch
Mynydd yn Eryri wedi ei ffurfio trwy effaith rhewlifau yw Crib Goch (923m).
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa a'i chriw |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 923 metr |
Cyfesurynnau | 53.0755°N 4.0535°W |
Cod OS | SH6242455189 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 65 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Carnedd Ugain |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Llwybrau
golyguMae llwybr o Ben-y-Pass dros Garnedd Ugain i'r Wyddfa ar gefn cul y mynydd, a gellir gweld Glaslyn a Llyn Llydaw yn ogystal â Phen y Pas o'r mynydd. Beth bynnag, mae'n ddigon peryglus ar y grib am fod y gwynt yn gryf fel arfer. "Nid yw’n fynydd i’r dibrofiad", yn ôl Awdurdod y Parc Cenedlaethol.[1]
Archaeoleg
golyguYm 1974 darganfuwyd Powlen yr Wyddfa, powlen efydd o'r Oes Haearn ar Grib Goch.
Y Grib Goch (cerdd)
golyguYsgrifennodd Thomas Rowland Hughes gerdd ynglŷn â'r grib. Mae'n annerch y darllenydd: "Gwaedda - " a thrwy hynny'n sylwi mor fach yw pobl o'u cymharu â mawredd y mynyddoedd.
Oriel
golygu-
Rhan o'r cyfrwy glaswelltog i'w weld yn glir.
-
Crib Goch mewn niwl.
-
Cerddwr ar y grib
-
Yr olygfa tua'r ucheldir
-
Y grib o'r Wyddfa
Cyfeiriadau
golygu
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |