Y Lliwedd
Mae'r Lliwedd (weithiau Lliwedd) yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa a'i chriw |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 898 metr |
Cyfesurynnau | 53.1°N 4.1°W |
Cod OS | SH6224553339 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 154 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Uchder
golyguMae ychydig yn is (898m) na chopa'r Wyddfa ei hun. Nid yw'n ddigon uchel i'w gyfrif ymysg y pedwar copa ar ddeg, ond mae'n ymddangos ar restrau Marilyn, Hewitt a Nuttall.
Daearyddiaeth
golyguMae Bwlch y Saethau yn gwahanu'r Lliwedd a'r Wyddfa. Ychydig ymhellach ar hyd y grib o'r Lliwedd mae Lliwedd Bach, yna copa is Gallt y Wenallt, lle mae'r grib yn gorffen. Ar ochr ogledd-ddwyreiniol y mynydd mae clogwyni serth uwchben Glaslyn a Llyn Llydaw. Roedd y clogwyni yma yn arbennig o boblogaidd gyda dringwyr flynyddoedd yn ôl. Ar yr ochr dde-orllewinol mae Cwm Llan, a thu draw iddo Yr Aran.
Llwybrau
golyguGellir dringo Lliwedd o Ben y Pas, ond mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cyrraedd y copa yn gwneud hynny fel rhan o Bedol yr Wyddfa, sy'n cynnwys Crib Goch a chopa'r Wyddfa ei hun yn y daith. Gellir hefyd gyrraedd y copa trwy ddilyn llwybr Watkin o Bont Bethania ger Beddgelert ond troi i'r dde cyn dechrau ar y darn olaf o'r llwybr i gopa'r Wyddfa.
Mewn llyfryddiaeth
golyguLliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ar Ynysoedd Prydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews.